Tagfeydd: Cyfarwyddwr Urdd yn ymddiheuro

  • Cyhoeddwyd

Mae Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd wedi ymddiheuro am yr anghyfleustra i filoedd ddydd Llun oherwydd tagfeydd o chwe milltir o hyd i'r Maes yng Nglynllifon.

Roedd rhai Eisteddfodwyr wedi gadael eu ceir ar ymyl y ffordd fel bod cystadleuwyr yn gallu cerdded neu redeg i'w rhagbrofion.

Dywedodd Aled Siôn eu bod yn cydnabod bod problemau wrth gyrraedd a gadael yr Eisteddfod ddydd Llun.

"Mae oedi wedi bod ond oedi disgwyliedig o ran maint yr Eisteddfod."

Torri record

Roedd yr Eisteddfod wedi torri record ar gyfer dydd Llun, meddai, a 23,913 wedi ymweld â'r safle ar y diwrnod cyntaf.

Dywedodd fod 6,000 o geir yn y maes parcio.

Ar un adeg fore Mawrth roedd adroddiadau bod tagfeydd yn cyrraedd cylchdro Llanwnda ger modurdy Dinas, dair milltir o'r safle.

Erbyn hanner dydd roedd problemau ar yr A499 o gyfeiriad Pwllheli a thagfeydd mor bell â Llanaelhaearn.

Roedd trefnwyr wedi gofyn i bobl ddefnyddio'r A487 o Gaernarfon i Gricieth yn hytrach na'r A499.

Erbyn 5.10pm dywedodd gohebydd BBC Cymru, Elen Wyn: "Mae petha'n rhedeg yn well ac mae mwy o heddlu a swyddogion diogelwch yma i sortio'r broblem."

Dydd Mawrth fe ddaeth 24,521 i'r Maes.

Dywedodd llefarydd ar ran yr Eisteddfod, Heddlu Gogledd Cymru a Chyngor Gwynedd ddydd Llun: "Fel sy'n arferol yn achos digwyddiadau mawr fel Eisteddfod yr Urdd, mae'r cynlluniau traffig yn cael eu hadolygu'n gyson er mwyn asesu a oes modd gwella'r sefyllfa ar gyfer gweddill yr ŵyl.

'Yn fuan'

"Bydd rhai newidiadau i'r cynlluniau traffig ar gyfer gweddill yr wythnos.

"Ein cyngor i ymwelwyr â'r Maes yw cychwyn eu taith yn fuan, dilyn yr arwyddion, ac i bobl leol ddefnyddio'r gwasanaethau trafnidiaeth cyhoeddus a'r bysiau wennol i'r Maes o Gaernarfon a Phwllheli os oes modd."

Yn yr Eisteddfod mae 15,000 o gystadleuwyr ac mae disgwyl hyd at 100,000 o ymwelwyr yn ystod yr wythnos.