Newidiadau i dîm Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae pedwar newid yn nhîm rygbi Cymru fydd yn wynebu Awstralia y penwythnos hwn i'r un a drechodd Ffrainc i gipio'r Gamp Lawn ym mis Mawrth.
Mae'r pymtheg yn gwbl wahanol i'r tîm ddechreuodd y gêm yn erbyn y Barbariaid yng Nghaerdydd.
Ymhlith y blaenwyr mae Ken Owens yn dechrau fel bachwr yn lle Matthew Rees, ac mae'r ail reng yn gwbl wahanol gyda Bradley Davies a Luke Charteris i mewn yn lle Ian Evans ac Alun Wyn Jones.
Y tu ôl i'r sgrym mae un newid gyda Scott Williams yn dod i mewn fel canolwr i gymryd lle Jamie Roberts sydd ag anaf i'w ben-glin.
Mae'r pymtheg i gyd felly yn wahanol i'r tîm oedd yn fuddugol yn erbyn y Barbariaid yn Stadiwm y Mileniwm yr wythnos ddiwethaf.
'Peryglus'
Dywedodd yr hyfforddwr Rob Howley: "Rydym wedi paratoi ac yn barod am yr her dros y penwythnos.
"Bydd Awstralia yn siomedig wedi iddyn nhw golli i'r Alban, ac fe fydd hynny'n eu gwneud yn fwy peryglus i ni.
"Y Wallabies sy'n dal yn ail yn rhestr detholion y byd, ac rydym yn eu hwynebu ar eu tomen eu hunain.
"Rydym yn gwerthfawrogi mawredd y dasg o'n blaenau - dyw'r ystadegau tymor hir ddim yn edrych yn dda i ni.
"Ond mae'r momentwm gyda ni, ac mae'r fuddugoliaeth yn erbyn y Barbariaid wedi codi hyder ymysg y garfan."
Tîm Cymru v. Awstralia - Dydd Sadwrn, Mehefin 9: Brisbane :-
Olwyr :
15. Leigh Halfpenny (Gleision)
14. Alex Cuthbert (Gleision)
13. Jonathan Davies (Scarlets)
12. Scott Williams (Scarlets)
11. George North (Scarlets)
10. Rhys Priestland (Scarlets)
9. Mike Phillips (Bayonne)
Blaenwyr :
1. Gethin Jenkins (Gleision)
2. Ken Owens (Scarlets)
3. Adam Jones (Gweilch)
4. Bradley Davies (Gleision)
5. Luke Charteris (Dreigiau)
6. Dan Lydiate (Dreigiau)
7. Sam Warburton (Gleision - capten)
8. Toby Faletau (Dreigiau)
Eilyddion :
Matthew Rees (Scarlets), Paul James (Gweilch), Alun Wyn Jones (Gweilch), Ryan Jones (Gweilch), Lloyd Williams (Gleision), James Hook (Perpignan), Ashley Beck (Gweilch)
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Mehefin 2012