Ymgyrch i symud 600 o drigolion oherwydd peryg llifogydd
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu wedi lansio ymgyrch i symud 600 o drigolion pentref yng Ngwynedd o'u cartrefi wedi i hollt ymddangos yn argae cronfa ddŵr lleol.
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cynghori pob dyn, menyw a phlentyn sy'n byw ym Mhennal i symud i ganolfan frys yn yr ardal wedi i ddŵr ddianc o'r gronfa.
Ond yn ôl yr heddlu dim ond nifer bychan o drigolion oedd wedi gadael eu cartrefi erbyn 4pm ddydd Sul er gwaethaf cyngor yr heddlu.
Y gred yw bod rhai o'r trigolion wedi mynd i Blas Talgarth ar gyrion y pentref a bod rhai eraill wedi teithio'r pedair milltir i ganolfan frys yr heddlu yng Nghanolfan Hamdden Bro Ddyfi ym Machynlleth.
'Difrod'
Dywedodd newyddiadurwr BBC Cymru, Siân Lloyd, sydd ym Mhennal, eu bod wedi cael eu hysbysu bod tua 100 o drigolion wedi gadael y pentref a bod trigolion eraill yn paratoi i adael.
Ychwanegodd fod trigolion eraill wedi anwybyddu cyngor yr heddlu gan aros yn eu cartrefi.
Dywedodd llefarydd ar ran cwmni Macdonald, sy'n berchen Plas Talgarth, fod yr heddlu yn ceisio atal pobl rhag mynd yno oherwydd Canolfan Bro Ddyfi yw'r ganolfan frys sydd wedi cael ei dynodi.
Mae'r heddlu wedi gofyn i bobl leol ac ymwelwyr osgoi'r pentref ar hyn o bryd.
Anfonodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ddwy injan dân o Ddolgellau ac un injan dân o Aberdyfi i ddelio â'r sefyllfa ym Mhennal.
Mae peirianwyr adeileddol yn asesu'r gronfa ddŵr.
Yn ôl aelod o staff Canolfan Bro Ddyfi mae tua 10 o drigolion yr ardal wedi cael eu cludo i'r ganolfan hyd yn hyn ond bod y rhan fwyaf o'r pentrefwyr wedi cael eu tywys i Blas Talgarth.
Un o'r rheiny sydd yn cael eu llochesu ym Mhlas Talgarth yw Shem ap Geraint.
Dywedodd fod trigolion wedi penderfynu mynd yno am eu bod am aros yn y pentref.
Ychwanegodd fod y sefyllfa wedi bod yn un "manig" wrth i'r gwasanaethau brys gwacau'r tai.
"Dioddefodd rhai pobl difrod i'w tai oherwydd y llifogydd ddoe," meddai.
"Roeddwn i'n ffodus oherwydd yr ochr arall y pentref ddioddefodd o'r llifogydd ddydd Sadwrn.
"Mae cynnwys eu tai wedi cael ei ddifetha gan gynnwys eiddo personol."
Mae staff cynghorau lleol, yr heddlu, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a'r bwrdd dŵr lleol yn cydweithio i sefydlogi'r sefyllfa.
'Osgoi'r pentref'
Y gred yw bod y broblem wedi ei achosi gan dirlithriad.
Dywedodd yr Uwch-arolygydd Andy Jenkins-Gilbert: "Rydym wedi symud y trigolion fel rhan o fesur rhagofal.
"Mae'r dŵr yn gorlifo dros wal y gronfa ddŵr ac ymuno ag afon sy'n llifo trwy chwarel o dan yr argae.
"Mae 'na hollt yn y wal sydd wedi achosi ychydig o ddŵr i ddianc.
"Pe bae'r argae yn dymchwel byddai cynnwys yr argae yn llifo i mewn i'r afon, sy'n rhedeg trwy bentref Pennal, sydd tua hanner milltir o'r gronfa.
"Mae heddweision yn symud pobl o'r ardal ac rydym yn gofyn i ymwelwyr a phobl leol i osgoi'r pentref ar hyn o bryd."
Dywedodd llefarydd at ran Cyngor Gwynedd: "Mae swyddogion o'r Cyngor yn cyd-weithio gyda'r heddlu i ymateb i'r sefyllfa."