Eisteddfod Llangollen: Cythraul y canu
- Cyhoeddwyd

Mae'r Eisteddfod yn denu artistiaid o bob cwr o'r byd
Eleni am y tro cyntaf bydd Eisteddfod Ryngwladol Llangollen yn cynnwys cystadleuaeth côr gwerin i blant.
Dywedodd cyfarwyddwr cerdd yr Ŵyl Eilir Owen Griffiths fod yna nifer o newidiadau yn ymwneud a chystadlaethau corau.
Mae'r trefnwyr wedi dechrau ar y gwaith o ddod o hyd i 40 o gorau i gystadlu am Dlws Pavarotti yng nghystadleuaeth Côr y Byd.
Bydd yr enillwyr yn derbyn gwobr o £5,000.
"Dim ond wyth o gorau o'r categorïau cymysg, ieuenctid, siambr, meibion a merched fydd yn cael eu dewis i gystadlu ar gyfer y wobr," meddai Mr Griffiths.
Unawdydd
"Rydym am sicrhau fod yr ŵyl yn denu'r nifer uchaf posib o gorau, a sicrhau mai'r ŵyl yw un o'r cystadlaethau corawl gorau yn y byd."
Eleni hefyd bydd gwobr gyntaf o £2,000 ar gyfer yr unawdydd gorau dan 35.
Y nod yw hyrwyddo gyrfa cantorion ifanc.
Bydd yr enillydd hefyd yn derbyn gwahoddiad i berfformio yn un o gyngherddau'r Eisteddfod yn y dyfodol.
Yn gynharach eleni cyhoeddodd trefnwyr yr Eisteddfod, fydd yn dechrau ar Orffennaf 3, eu bod yn fodlon iawn gyda sefyllfa ariannol yr ŵyl.
Roeddynt yn hapus gyda'r nifer o docynnau ar gyfer cyngherddau oedd eisoes wedi eu gwerthu.
Dywedodd Mr Griffiths, iddo roi cyfres o dargedau heriol i'w hun wrth gychwyn ar ei waith.
"Dwi'n gobeithio fod y cyngherddau eleni yn destament o'r weledigaeth glir sydd gen i ar gyfer yr ŵyl unigryw yma.
"Dwi'n hapus iawn ein bod wedi rhagori ar ein disgwyliadau o ran gwerthiant tocynnau.
.
.