Y Pab yn cyhoeddi Esgob newydd i Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Cyhoeddodd Y Pab Bened XVI mai Peter Brignall yw Esgob Wrecsam.
Mae'r Esgob-etholedig yn 58 oed ac yn ddeon Eglwys Y Santes Fair yn Wrecsam.
Hefyd fe yw ficer cyffredinol yr esgobaeth.
Dywedodd ei fod wedi synnu at yr apwyntiad ar y cychwyn ond yn teimlo'n ostyngedig.
"Dwi'n falch bod yr Esgob Edwin Reagan yn cael amser haeddiannol i ymddeol," meddai.
"Wedi'r syndod at y ffaith bod y Tad Sanctaidd â hyder ynddo i dwi'n freintiedig i dderbyn yr apwyntiad.
"Mae cael rhoi fy mywyd i wasanaethu'r Eglwys Gatholig yn y gogledd unwaith eto yn brofiad arbennig gan fod hon yn eglwys y dewisais i weithio iddi 35 mlynedd yn ôl."
Fe fydd yn cael ei ordeinio yn Esgob ar Fedi 12.
"Yn gynharach eleni fe wnaethom ddathlu 25 mlynedd ers sefydlu Esgobaeth Wrecsam ac rydym yn dal yn ifanc iawn yn y trydydd mileniwm.
"Y cam nesa yw adeiladu ar seiliau'r ddau esgob blaenorol, Yr Esgob James Hannigan a'r Esgob Edwin Regan."
Fis wedi iddo gael ei ordeinio fe fydd yr Eglwys Gatholig yn cychwyn Blwyddyn Ffydd, blwyddyn lle bydd y Pab yn gwahodd Catholigion i ailddarganfod eu ffydd.
'Ffyddlon a doeth'
"Does 'na ddim amser gwell i gychwyn fy ngweinidogaeth nac, yn wir, holl bwrpas fy ngweinidogaeth yng Nghymru am flynyddoedd i ddod."
Dywedodd yr Esgob Regan fod ei olynydd wedi cysegru ei fywyd fel gweinidog i wasanaethu'r Efengyl yng Nghymru.
"Mae wedi bod yn gyd-weithiwr ffyddlon a doeth fel ficer cyffredinol ac mae ei gariad yn ddwfn at bobl yr esgobaeth a'i gyd-glerigwyr.
"Drwy ei brofiad hir yn ei waith bugeiliol yng Nghymru mae'r Esgob-etholedig yn deall pwysigrwydd yr iaith Gymraeg a diwylliant modern Cymru.
"Fe fydd yn parhau i arwain yr esgobaeth yn ysbryd Cyngor Yr Ail Fatican ac yn enwedig ym Mlwyddyn Ffydd."
Mae Esgobaeth Wrecsam yn cynnwys rhan o hen Esgobaeth Mynyw ac yn cynnwys chwe sir y gogledd a Threfaldwyn ym Mhowys.