Miloedd o gleifion yn aros mwy na 12 awr

  • Cyhoeddwyd
AmbiwlansFfynhonnell y llun, Not Specified
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Ceidwadwyr wedi dweud bod angen mwy o adnoddau

Mae mwy na 10,000 o bobl y flwyddyn yn aros mwy na 12 awr mewn adrannau brys ysbytai yng Nghymru, yn ôl y Ceidwadwyr.

Yn ôl ffigyrau ddaeth i law'r blaid, cofnododd ysbytai fod 842 o bobl wedi aros mwy na 24 awr.

Daw'r manylion wrth iddi ddod i'r amlwg fod y Gwasanaeth Iechyd wedi methu targedau o ran gweld cleifion o fewn pedair ac wyth awr ym mis Mai.

Mae'r Ceidwadwyr wedi beio diffyg adnoddau ond mae'r Gweinidog Iechyd wedi dweud bod "rhagrith y Ceidwadwyr yn anhygoel".

95%

Fe ymwelodd 1,056,000 o gleifion ag unedau brys yng Nghymru rhwng Medi 2010 a Medi 2011.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed i ysbytai, hynny yw bod 95% o gleifion yn cael sylw o fewn pedair awr o gyrraedd uned frys.

Fis diwethaf fe dreuliodd 88.8% o gleifion lai na phedair awr, cynnydd 0.2% ar fis Ebrill.

Mae'r Ceidwadwyr wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi gwybodaeth yn gyson am gleifion sy'n aros am amseroedd hirach.

Byrddau iechyd

Ar hyn o bryd dim ond y ffigyrau am rai sy'n aros dros bedair ac wyth awr sy'n cael eu cyhoeddi.

Fe wnaeth y Ceidwadwyr gais rhyddid gwybodaeth i'r byrddau iechyd er mwyn cael ffigyrau pobl yn aros am 12 a 24 awr.

Fe ddarparodd rhai byrddau ffigyrau ar gyfer blynyddoedd ariannol ac eraill fanylion blwyddyn galendr.

Mae'r ffigyrau ar gyfer y flwyddyn fwyaf diweddar yn dangos bod 10,228 wedi aros mwy na 12 awr cyn cael sylw.

Ym Mwrdd Iechyd Aneurin Bevan yn y de ddwyrain mae cynnydd sylweddol yn nifer y bobl oedd yn aros mwy na 12 awr.

Yn 2007 roedd 141 (0.1% o gleifion) wedi aros mwy na 12 awr ond erbyn 2011 y cyfanswm oedd 2,850 (1.95%).

Beirniadu

Mae'r Ceidwadwyr wedi beirniadu Llafur am beidio â chynyddu gwariant ar iechyd yr un ganran â chwyddiant.

Yn ôl Llafur, byddai hynny wedi golygu toriadau mewn meysydd eraill.

Dywedodd Darren Millar, llefarydd y Ceidwadwyr ar iechyd: "Rwy'n poeni fod prinder gwlâu yn rhan fawr o'r broblem mewn unedau brys.

"Dyma'r tro cyntaf i ni weld maint go iawn y rhestrau aros dros 12 awr ond bod y ffigyrau'n amrywio'n fawr o ardal i ardal."

Ond dywedodd y Gweinidog Iechyd, Lesley Griffiths: "Mae rhagrith y Ceidwadwyr Cymreig yn anghredadwy.

"Mae'r Gwasanaeth Iechyd yn Lloegr yn dirywio oherwydd camreoli'r Ceidwadwyr a thoriadau.

"Dyw hi ddim yn syndod felly fod y Gymdeithas Feddygol wedi dweud nad oes ganddynt hyder yn Andrew Lansley, gan ofyn iddo ymddiswyddo.

"Fe wnaeth unedau brys yng Nghymru ofalu am fwy na 980,000 o gleifion yn 2011 - mae hynny tua 80,000 o gleifion y mis.

Yn ddiogel

"Er hynny, fe welwyd y rhan fwyaf o fewn yr amseroedd targed."

Dywedodd eu bod yn benderfynol o sicrhau bod y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru yn ddiogel a chynaliadwy.

"Dyna pam nad ydym yn torri'r gyllideb iechyd er gwaetha'r ffaith fod y Llywodraeth Glymblaid dan arweiniad y Torïaid wedi torri cyllid Cymru," meddai.

"Rydym yn parhau i fuddsoddi yn iechyd a'r gwasanaethau cymdeithasol, gyda 43% o'r holl gyllideb yn cael ei wario yn y meysydd hyn."