Dinas-ranbarthau'n 'hwb i'r economi'

  • Cyhoeddwyd
Bae Caerdydd
Disgrifiad o’r llun,

Adroddiad: Yng Nghymru dyw ein dinasoedd ond yn cynhyrchu 33% o incwm/cyfoeth

Dylid datblygu dinas-ranbarthau yng Nghymru er mwyn rhoi hwb i'r economi, yn ôl adroddiad.

Dywedodd panel o arbenigwyr y byddai sefydlu ardaloedd o'r fath yn golygu mwy o fuddsoddi - a mwy o gyflogau i bobl.

Mae'r adroddiad yn sôn am ddinas-ranbarth wedi ei seilio ar Abertawe ac un wedi ei seilio ar Gaerdydd.

Cafodd y syniad o ddinas-ranbarth fyddai'n cysylltu gogledd- ddwyrain Cymru a Sir Caer ei wrthod.

Argymhelliad arall yw creu swydd gweinidog newydd fyddai'n gyfrifol am y dinas-ranbarthau ac yn oruchwylio trafnidiaeth gyhoeddus yn y de ddwyrain.

Cafodd yr adroddiad, yr oedd Llywodraeth Cymru wedi ei gomisiynu, ei gyflwyno i Aelodau Cynulliad ddydd Mercher.

Cynnydd

Bydd dinas-ranbarth Bae Abertawe yn ymestyn i Gaerfyrddin ac yn cynnwys Llanelli, Port Talbot, Castell-nedd, Rhydaman ac Ystradgynlais.

A bydd un Caerdydd yn cynnwys Merthyr, Aberdâr, Pont-y-pŵl, Casnewydd, Pen-y-bont ar Ogwr a'r Barri.

Mae'r adroddiad wedi dweud bod gwaith ymchwil yn dangos bod y cynnydd mwyaf o ran twf economaidd mewn dinasoedd.

Ond dyw hynny ddim yn wir yng Nghymru.

"Yng Nghymru dyw ein dinasoedd ond yn cynhyrchu 33% o'n incwm/cyfoeth, y ganran isaf o'i chymharu â rhanbarthau a gwledydd eraill y Deyrnas Unedig," meddai.

"Mae yna dystiolaeth gref fod hyn yn egluro pam bod perfformiad Cymru yn gymharol wan wrth ystyried cynnyrch y pen a chyflogau."

Addas

Mae'r adroddiad wedi dweud mai Abertawe a Chaerdydd oedd yr ardaloedd mwyaf addas oherwydd ffactorau fel poblogaeth, traffig ac ymdeimlad o berthyn i'r gymuned.

Roedd y panel o arbenigwyr, oedd yn cynnwys arweinwyr busnes ac academyddion, wedi edrych ar lwyddiannau dinasoedd eraill fel Manceinion a Chaeredin.

Yn yr adroddiad mae 20 o argymhellion, gan gynnwys comisiynu mwy o waith ymchwil i ganolbwyntio ar y bwlch sgiliau yn y farchnad lafur a galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau ffynhonnell newydd o arian.

Dywed yr adroddiad fod trafnidiaeth yn holl bwysig. Mae'n argymell sefydlu corff gweithredol i fod yn gyfrifol am drafnidiaeth yn y de ddwyrain, ac mae'n dweud fod trydaneiddio'r rheilffordd rhwng Llundain ac Abertawe yn holl bwysig.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol