Poblogaeth Cymru bellach dros dair miliwn yn ôl y cyfrifiad
- Cyhoeddwyd
Mae poblogaeth Cymru wedi cynyddu o 5% (153,000) dros y 10 mlynedd diwethaf yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Y boblogaeth ar ddiwrnod y cyfrifiad, sef Mawrth 27, 2011, oedd 3.06 miliwn. 2.91 miliwn oedd y ffigwr yn 2001.
Dyma oedd y cynnydd mwyaf mewn unrhyw gyfnod o 10 mlynedd ers 1921, a mudo yw'r rheswm am 90% o'r cynnydd.
O fewn Cymru, Caerdydd sydd â'r boblogaeth uchaf a'r cynnydd mwyaf mewn poblogaeth.
Bellach mae 346,000 o bobl yn byw yn y brifddinas, sydd 36,000 yn uwch nag yn 2001.
Yno hefyd roedd y dwysedd poblogaeth uchaf, gyda 2,500 o bobl am bob cilomedr sgwâr.
O'r holl awdurdodau lleol yng Nghymru, Blaenau Gwent oedd yr unig un i weld y boblogaeth yn gostwng, a hynny o 0.3%.
Conwy sydd â'r gyfran uchaf o'i phoblogaeth yn hŷn na 65 oed - 25% - ac yng Nghaerdydd oedd yr isaf.
Ac mae gan Gymru gyfran uwch o bobl dros 65 oed na bron pob ardal yn Lloegr.
Plant bach
Cafodd y ffigyrau eu cyhoeddi fel rhan o'r dadansoddiad cyntaf o ganlyniadau Cyfrifiad 2011., dolen allanol
Mae'r boblogaeth wedi tyfu yng Nghymru ac yn Lloegr, ond mae'r cynnydd yn uwch yn Lloegr.
Un grŵp oedran a welodd gynnydd sylweddol oedd plant o dan 5 oed.
Yng Nghymru roedd 11,000 yn fwy o blant o fewn y grŵp yma nag yn 2001 - cynnydd o 7%.
O fewn Cymru, Wrecsam sydd â'r gyfran uchaf o fewn y grŵp oedran yma - 7% - a Cheredigion yr isaf.
Dywedodd cyfarwyddwr y Cyfrifiad, Glen Watson: "Fe weithiodd y cyfan yn dda. Rydym wedi cwrdd â'n targedau o safbwynt ymateb a safon.
"Fe gawsom gefnogaeth wych gan y cyhoedd a gan grwpiau gwirfoddol, grwpiau cymunedol ac awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr.
"Hoffwn ddiolch i bawb a fu'n rhan o'r gwaith, gan gynnwys y 35,000 o bobl fu'n gweithio ar gasglu'r wybodaeth ac a gynorthwyodd i wneud y cyfrifiad yn llwyddiant."
Cyfrifiad 2011 - gafodd ei gynnal ddydd Sul, Mawrth 27, 2011 - oedd y tro cyntaf i bobl fedru cofnodi eu bod yn Gymry, hyd yn oed os oedden nhw'n byw mewn rhannau eraill o Brydain.
Yn 2000 fe wnaeth Aelodau'r Cynulliad bleidleisio'n unfrydol dros gynnwys y blwch "Cymry" ar y ffurflen yn 2001 ond roedd hi'n rhy hwyr i'w newid.
Dywedodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol mai'r ffaith nad oedd y blwch wedi cael ei gynnwys ar y ffurflen yn 2001 arweiniodd at y nifer mwyaf o gwynion.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Gorffennaf 2012