Cynhadledd Geltaidd 'arloesol'

  • Cyhoeddwyd
Prifysgol BangorFfynhonnell y llun, bbc
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhai o academwyr blaenllaw'r byd yn y gynhadledd ym Mhrifysgol Bangor

Mae cynhadledd wedi denu mwy na 60 o academyddion o bedwar ban y byd i Fangor y penwythnos hwn er mwyn trafod nifer o bynciau Astudiaethau Celtaidd.

Dechreuodd nos Wener ac mae'n para am bedwar diwrnod.

Mae ysgolheigion o Rwsia, Japan, Awstria, yr Iseldiroedd, Gwlad Pŵyl, Ffrainc, Gogledd America, Yr Alban, Iwerddon, Lloegr, a Chymru yng Nghynhadledd Astudiaethau Celtaidd gyntaf Bangor.

Bydd papurau am ieithyddiaeth Geltaidd ganoloesol, modern cynnar, a modern, llenyddiaeth, iaith, hanes, y gyfraith, archaeoleg, celf, cerddoriaeth, a diwylliant.

'Ymateb aruthrol'

Dywedodd un o drefnwyr y gynhadledd, Dr Kate Olson: 'Rydym yn hapus dros ben i groesawu cymaint o ysgolheigion o fri ar gyfer y gynhadledd hon.

"Mae'n cynnig ymchwil rhyngwladol arloesol ym maes Astudiaethau Celtaidd, gan gynnwys gwaith llawer o ysgolheigion Prifysgol Bangor.

"Rydym yn fodlon iawn ar yr ymateb aruthrol i'n galwad am bapurau ...'

Mae'r papurau yn cyfeirio at yr ieithoedd Cymraeg, Cernyweg, a Phicteg; brenhinoedd a rhyfelwyr Gwyddeleg yr Oesoedd Canol; y mudiad gweriniaethol Gwyddeleg modern; breninesau Cymraeg a'r Mabinogion yng Nghymru'r Oesoedd Canol.

Ymhlith y cynadleddwyr mae'r Athro Brynley Roberts o Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd, yr Athro Harry White o Goleg y Brifysgol, Dulyn, yr Athro David Dumville o Brifysgol Aberdeen, yr Athro Colin Williams o Brifysgol Caerdydd a'r Athro Nancy Edwards o Brifysgol Bangor.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol