Medal aur i Jade Jones
- Cyhoeddwyd
Jade Jones o'r Fflint yw enillydd medal unigol gyntaf Cymru yn y Gemau Olympaidd yn Llundain 2012.
Fe gipiodd Jones y fedal aur ar ôl ennill gornest agos yn erbyn pencampwraig y byd yn y rownd derfynol yn Arena Excel nos Iau.
Mae Jade wedi hen arfer cyflawni gorchestion yn ei champ o taekwondo.
Enillodd fedal aur yn y Gemau Olympaidd ieuenctid ddwy flynedd yn ôl, ac enillodd fedal arian ym mhencampwriaeth y byd y llynedd.
Roedd y ferch 19 oed o'r Fflint eisoes wedi cyflawni gwyrthiau i gyrraedd rownd derfynol Llundain 2012 gan iddi guro prif ddetholyn y byd, Li-Cheng Tseng, yn y rownd gynderfynol.
Gornest agos
Ond yn y rownd derfynol roedd yn wynebu pencampwraig y byd, Yuzhuo Hou o China.
Roedd hi'n ornest agos dros ben, ac ar ôl dwy rownd, Jones oedd ar y blaen o 2-0. Dim ond un o ergydion Jones lwyddodd i sgorio, ond cafodd y ferch o China ddau rhybudd gan arwain at bwynt arall yn ei herbyn.
Fel yn y rownd flaenorol roedd llawer mwy o gyffro yn y rownd olaf.
Ar ddiwedd diwrnod hir o gystadlu, roedd golwg flinedig ar Yuzhuo Hou ar ddechrau'r rownd ac fe sgoriodd Jones gydag dwy ergyd arall i'r corff i agor y bwlch i 4-0.
Daeth dau rybudd i Jones i roi pwynt i'w gwrthwynebydd, ond sgoriodd gyda chic arall i'w gwneud hi'n 5-1.
Yna daeth cyfnod o sgorio cyflym a orffennodd gyda Jones yn sgorio unwaith eto i wneud y sgôr terfynol yn 6-4 ac roedd y fedal aur yn ddiogel.
Parti
Yn ôl yn ei chartref yn y Fflint roedd cannoedd wedi ymgynnull i weld yr ornest ar y teledu gan gynnwys aelodau o'i theulu.
Dywedodd ei hewythr Jeffrey Jones: "Mae pawb wrth eu bodd ac yn falch iawn iawn ohoni.
"Mae Jade wedi bod yn y gamp ers oedd hi'n wyth oed. Roedd ei thaid yn mynd â hi i gystadlu ac mae hi wedi tyfu a symud ymlaen o fanna.
"Rwy'n falch o'r Fflint hefyd. Mae pawb wedi dod yma i gefnogi chwarae teg iddyn nhw."
Ychwanegodd Mr Jones y byddai parti dathlu yn dechrau heno ac y byddai'r parti yn parhau tan i Jade ddod adre i ymuno gyda nhw unwaith eto.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Medi 2012