Medal arian i Hannah
- Cyhoeddwyd
Cafodd Cymru fedal arian ddydd Gwener wrth i Hannah Mills o Ddinas Powys gystadlu yn yr Hwylio (Dosbarth 470) gyda'i phartner Saskia Clark.
Yn Weymouth roedd y ddwy'n gyfartal ar bwyntiau gyda Seland Newydd fore Gwener wedi cyfres o ddeg ras ond ni lwyddon nhw i drechu Seland Newydd.
Enillodd Mills bencampwriaeth y byd gyda Saskia Clark ddeufis cyn y gemau yn Llundain - y menywod cyntaf o Brydain i ennill medal aur yn y dosbarth 470.
Yn gyn bencampwr ieuenctid y byd, dechreuodd Mills ei phartneriaeth gyda Clark yn Chwefror 2011, ac o fewn dim roedd y ddwy wedi ennill medal efydd Ewropeaidd a medal arian ym Mhencampwriaeth y Byd.
'Hwb'
Dywedodd Dr Huw Jones, Prif Weithredwr Chwareon Cymru: "Mae'r hyn mae Hannah wedi ei gyflawni'n hwb i'r campau yng Nghymru, yn enwedig campau menywod.
"Ac mae'n dangos bod gwaith caled ac ymroddiad yn gallu eich codi o lefel clwb hwylio lleol i'r lefel ucha' bosib.
Dywedodd Steven Morgan, Prif Weithredwr Cymdeithas Hwylio Cymru: "Yn sicr, mae Hannah a Saskia wedi cyflawni cymaint mewn cyn lleied o amser.
"Mae dod yn bencampwyr y byd ac ennill medal Olympaidd yn yr un flwyddyn yn gamp enfawr."
Dywedodd fod Hannah'n "ysbrydoliaeth i'r genhedlaeth nesa' o hwylwyr."