Gemau'r Gymanwlad i Gymru?
- Cyhoeddwyd
Datgelodd rhaglen y Post Cyntaf ar Radio Cymru bod Cyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymru yn ystyried gwneud cais i gynnal Gemau'r Gymanwlad yn 2026.
Daeth cadarnhad gan y ddau gorff bod astudiaeth dichonolrwydd yn cael ei wneud ar hyn o bryd i ddod â'r Gemau i Gymru.
Mae'n ddyddiau cynnar dros ben yn y broses, ond mae'r astudiaeth eisoes yn edrych ar leoliadau posib i gynnal campau.
Mae'r ddau wedi cadarnhau hefyd bod Cyngor Gemau'r Gymanwlad Cymru yn gweithio ar yr astudiaeth.
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda Chyngor Caerdydd i ystyried dichonolrwydd gwneud cais i gynnal Gemau'r Gymanwlad 2026.
"Rydym yn gweithio gyda'r Cyngor a rhanddeiliaid eraill fel Cyngor Gemau'r Gymanwlad Cymru, i gwrdd â'r ymrwymiad yna."
Cyfarfodydd
Dywedodd Chris Jenkins o Gyngor Gemau'r Gymanwlad Cymru:
"Does dim penderfyniad eto, ond mae'r gwaith wedi dechrau ar astudiaeth dichonolrwydd. Rydym ni, Llywodraeth Cymru, Cyngor Caerdydd a Chwaraeon Cymru wedi bod yn rhan o hyn.
"Cafodd llawer o gyfarfodydd eu cynnal i edrych ar bethau fel lleoliadau a chost, ond mae'r astudiaeth yn dal i ddigwydd ac mae llawer o waith i'w wneud cyn y gallwn ni ddod i unrhyw gasgliad terfynol.
"Mae Gemau'r Gymanwlad Cymru hefyd wedi bod yn gweithio gyda Ffederasiwn y Gymanwlad ar hyn a dyna yw rhan gynta'r astudiaeth, ond fe fydd astudiaethau eraill hefyd yn gorfod cael eu gwneud."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Rhagfyr 2011