Galw am rhyddhau Bradley Manning
- Cyhoeddwyd
Mae sefydlydd gwefan Wikileaks, Julian Assange, wedi gwneud ei ddatganiad cyhoeddus cyntaf ers iddo ffoi i lysgenhadaeth Ecuador ddeufis yn ôl.
Yn y datganiad, galwodd ar America i ryddhau'r milwr Bradley Manning, a fagwyd yn Sir Benfro, ac i roi'r gorau i erlid ei wefan.
Mae Mr Assange wedi bod yn cuddio yn y llysgenhadaeth er mwyn ceisio osgoi cael ei estraddodi i Sweden, lle mae'n wynebu cyhuddiadau o droseddau rhyw.
Os fydd yn mynd i Sweden, mae cefnogwyr Assange yn credu y bydd America yn manteisio ar y cyfle i'w estraddodi yno i wynebu cyhuddiadau'n ymwneud a chyfrinachau milwrol.
Mae Bradley Manning wedi cael ei ddal am ddwy flynedd a chwarter wrth aros i sefyll ei brawf ar gyhuddiadau ei fod wedi datgelu cyfrinachau i wefan Wikileaks allai fod wedi peryglu staff milwrol America yn y Gwlff.
'Arwr'
Wrth siarad o falconi llysgenhadaeth Ecuador yn Knightsbridge, dywedodd Mr Assange: "Ddydd Mercher, treuliodd Bradley Manning ei 815fed diwrnod dan glo heb achos llys.
"Yr uchafswm cyfreithiol yw 120 o ddyddiau. Mae yna undod yn y gorthrwm hwn."
Disgrifiodd Bradley Manning fel arwr ac "yn esiampl i ni gyd", gan arwain at gymeradwyaeth gan y dorf o ugeiniau o gefnogwyr y tu allan.
Yr wythnos diwethaf, fe wnaeth Ecuador ganiatáu lloches wleidyddol i Mr Assange, ond mae llywodraeth y DU wedi pwysleisio na fydd yn cael gadael y DU, ac y bydd yn cael ei arestio pan fydd yn gadael y llysgenhadaeth.
Yn ei ddatganiad ddydd Sul, cyhuddodd Mr Assange yr heddlu o geisio cynnal cyrch ar y llysgenhadaeth er mwyn ei dynnu allan, ond bod y torfeydd y tu allan wedi eu rhwystro.
Mae Mr Assange wedi gofyn i Sweden am sicrwydd na fydd yn cael ei estraddodi oddi yno i America, a phan ddaw'r sicrwydd hwnnw ei fod yn barod i fynd i Sweden.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Mehefin 2012
- Cyhoeddwyd4 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd12 Ionawr 2012