Abertawe 3-0 West Ham United

  • Cyhoeddwyd
Angel Rangel yn sgorioFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Angel Rangel yn llywio'r bêl heibio i Jaaskelainen yn y gôl

Abertawe 3-0 West Ham United

Roedd cefnogwyr Abertawe yn dal i ddathlu'r fuddugoliaeth enwog yn erbyn QPR y penwythnos diwethaf wrth i West Ham wneud y daith i Stadiwm Liberty.

Roeddent hefyd yn disgwyl pethau mawr gan dîm Michael Laudrup ar eu tomen eu hunain, a chafon nhw mo'u siomi.

Yr Elyrch aeth ar y blaen o fewn ugain munud - Angel Rangel daniodd ergyd i gornel ucha'r rhwyd o'r tu mewn i'r cwrt chwech.

Cyn pen hanner awr o chwarae roedd hi'n ddwy. Eisoes mae rhai gwybodusion wedi dweud mai Michu yw un o fargeiniau'r haf yn y farchnad drosglwyddo.

Fe brofodd y chwaraewr canol cae bod y pris o £2 miliwn amdano i Rayo Vallecano yn werth chweil pan aeth ei ergyd o ymyl y cwrt i gornel isa'r rhwyd - tair gôl mewn dwy gêm i'r Sbaenwr.

Gwobr

Fe geisiodd rheolwr West Ham, Sam Allardyce, newid pethau ny yr ail hanner gan ddod ag ymosodwr i'r maes fel eilydd yn lle amddiffynwr, ond roedd Abertawe'n edrych yn beryglus iawn yn gwrthymosod oherwydd eu cyflymder.

Daeth gwobr am y gwaith yna wedi 64 munud. Croesiad Wayne Routledge, a Danny Graham gafodd ei gôl gynta' y tymor hwn i'w gwneud hi'n dair.

Mae'n ddyddiau cynnar iawn, ond fe fydd gweld enw Abertawe ar frig yr Uwchgynghrair dros y penwythnos yn galondid i bawb sy'n ymwneud â'r clwb, ac yn ddechrau gwych i yrfa Laudrup fel rheolwr.