Robert Croft i orffen ei yrfa gyda Morgannwg
- Cyhoeddwyd
Fe fydd gyrfa 23 blynedd Robert Croft yn dod i ben gyda Morgannwg yr wythnos nesa.
Roedd o wedi gobeithio parhau i chwarae am dymor arall ond mae disgwyl i Forgannwg gyhoeddi y bydd Croft, 42 oed, yn cael rôl fel hyfforddwr a marchnata.
Fe wnaeth Prif Weithredwr Morgannwg, Alan Hamer, gyfarfod y troellwr ddydd Mercher, i gadarnhau ei ddyfodol gyda'r sir.
Mae Croft wedi cael ei ddefnyddio'n achlysurol yn sytod y tymor yma gan chwarae 12 gêm yn unig.
Yn ystod tymor 2010 fe wnaeth gyrraedd 1,000 o wicedi yn ystod ei yrfa, y pedwerydd chwaraewr yn holl hanes Morgannwg i wneud hynny ers Don Shepherd yn 1960.
Mae'r gŵr o Abertawe wedi gwneud dros 10,000 o rediadau i'r sir, yr unig chwaraewr i wneud y dwbl, dros 1,000 o wicedi a 10,000 o rediadau.
Lloegr
Wyth chwaraewr arall yn unig sydd wedi cyflawni hyn i unrhyw sir ers 1945.
Fe chwaraeodd Croft dros Loegr am y tro cyntaf mewn gêm brawf yn erbyn Pakistan yn 1996.
Mae o wedi ennill 20 cap arall ac wedi cymryd 49 wiced.
Chwaraeodd 50 o gemau undydd i Loegr, gan fod yn aelod cyson o'r tîm o ddiwedd 1996 tan Gwpan y Byd yn 1999.
Yn 1997 roedd yn allweddol ym muddugoliaeth gyntaf Morgannwg i ennill pencampwriaeth y siroedd ers 1969.
Roedd 2011 yn flwyddyn dysteb i Croft ym Morgannwg fel cydnabyddiaeth o'i wasanaeth i'r clwb.