Esgob yn rhybuddio protestwyr yn Aberystwyth
- Cyhoeddwyd
Mae protestwyr sy'n ymgyrchu i achub Eglwys Gatholig rhag cau wedi eu rhybuddio gan Esgob i "gamu yn ôl" neu y gallan nhw fod heb unrhyw le i addoli.
Mae Esgob Menefia Thomas Burns am ddymchwel Eglwys Gatholig y Forwyn Fair a Santes Gwenfrewi yn Aberystwyth a gwerthu'r tir.
Mae 'na gynlluniau ar y gweill i ddefnyddio'r arian am werthu'r tir i adeiladu eglwys newydd tua dwy filltir y tu allan i'r dref ym Mhenparcau.
Ond yn ôl un gwrthwynebydd nid yw rhai o'r plwyfolion am i'r eglwys symud i Benparcau.
'Dirywio'
Cafodd yr eglwys ei hadeiladu yn yr 1870au ac mae tua 150 o bobl yn addoli yno bob fore Sul.
Dywedodd yr Esgob Burns, sydd wedi'i leoli yn Abertawe, mewn neges fugeiliol, nad oedd yr eglwys yn addas i bwrpas a gallai gael ei gau oherwydd problemau iechyd a diogelwch.
"Mae'r tactegau mae'r protestwyr wedi'u defnyddio, gan gynnwys deisebau a chyflwyniadau i'w cynghorwyr lleol wedi ein harwain at sefyllfa ddifrifol," meddai.
"Yn ystod yr wythnosau diwethaf mae adeiledd Eglwys y Santes Gwenfrewi wedi parhau i wanhau.
"Mae'r adeilad mewn cyflwr mor wael na all ein hyswirwyr cynnig sicrwydd yswiriant addas o ran y waliau a'r to sy'n dirywio pe baen nhw'n cwympo.
"Rwyf yn gynyddol bryderus ynghylch materion iechyd a diogelwch. Mae darnau o'r gwaith maen a darnau eraill wedi cwympo ac fe fydd yn rhaid imi wneud penderfyniad ynglŷn â chau'r eglwys cyn bo hir i atal y peryg i bobl."
'Cynyddu'r peryg'
Mae'r safle yn Ffordd y Frenhines yn cynnwys neuadd blwyf sydd wedi dirywio a thŷ offeiriad.
Yn ôl yr Esgob fe fyddai'n costio mwy na £2.6 miliwn i adfer yr adeiladu hyn.
Ond yn ôl gwrthwynebwyr i'r cynllun chawson nhw ddim tystiolaeth fod yr eglwys yn anniogel o ran adeiledd.
Ychwanegodd yr Esgob Burns: "Dywedwch yn gwrtais wrth y protestwyr i gymryd cam yn ôl. Siaradwch gyda nhw neu ysgrifennwch atynt.
"Rydych chi'n gwybod pwy ydyn nhw ac rydych chi hefyd yn gwybod nad ydynt yn cynrychioli'r plwyf.
"Maen nhw wedi cyfrannu at y gost o fwy na £100,000 sydd eisoes wedi cael ei achosi hyd yn hyn.
"Dywedwch wrthynt mai digon yw digon a'u bod yn cynyddu'r peryg na fydd yr un Eglwys Gatholig yn Aberystwyth."
'Dim tystiolaeth'
Mae gwrthwynebwyr yn honni y byddai symud yr eglwys o ganol y dref yn golygu y byddai'n anos i aelodau hŷn ymysg y plwyfolion i fynychu gwasanaethau.
Ond yn ôl yr Esgob fe fyddai gwasanaethau yn yr eglwys newydd yn cydymffurfio â gwasanaeth bysys y dref pan fo hynny'n bosib.
Dywedodd un o'r gwrthwynebwyr, nid oedd am gael ei enwi: "Mae'r hen eglwys wedi bod yna ers yr 1870au ac maen nhw'n dweud bod yn rhaid iddi gael ei dymchwel am nad yw hi'n addas i bwrpas.
"Mae rhai o'r plwyfolion yn cytuno gyda gosodiad hyn ond mae rhai yn anghytuno.
"Dydyn ni ddim am i'r eglwys symud o ganol y dref.
"Dydyn ni ddim wedi gweld dim tystiolaeth sy'n profi bod yr eglwys yn anniogel o ran adeiledd er bod yr eglwys angen cael ei hadfer."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Mehefin 2012