Dathlu diwedd cynllun cadwraeth ar Foel Famau
- Cyhoeddwyd
Cafodd cyfres o ddathliadau eu cynnal dros y penwythnos er mwyn nodi diwedd prosiect cadwraeth £2.3 miliwn yn y gogledd ddwyrain.
Nod y prosiect, y grug a caerau, yw amddiffyn tirwedd, bywyd gwyllt a threftadaeth Bryniau Clwyd.
Mae'r ardal yn cynnwys cyfres o gaerau o'r oes gerrig yn Sir Ddinbych a Sir y Fflint.
Roedd y dathliadau yn cynnwys cyfle i flasu cwrw sydd wedi ei fragu yn defnyddio grug porffor yr ardal, sydd wedi ei glustnod yn Ardal o Brydferthwch Naturiol Eithriadol (ABNE).
Mae pedwar ABNE yng Nghymru - yn Ynys Môn, Pen Llŷn, Gŵyr a Dyffryn Gwy.
Archaeoleg
Cafodd £1.5 miliwn ei roi o Gronfa Treftadaeth y Loteri er mwyn cefnogi cynllun pum mlynedd Y Grug a'r Caerau.
Yn ogystal â chadwraeth, a phrosiectau addysg roedd ymchwil archaeoleg yn rhan o'r cynllun.
Mae Bryniau Clwyd yn ymestyn o Fwlch Nant y Garth ger Rhuthun i'r arfordir ym Mhrestatyn, pellter o 21 milltir.
Mae dathliadau'r penwythnos yn bennaf ar Foel Famau, copa uchaf Bryniau Clwyd.
Bydd modd gweld copr yn cael ei fwyndoddi, proses a fyddai wedi bod yn gyffredin iawn yn yr ardal filoedd o flynyddoedd yn ôl pan oedd pobl yn byw ar y bryniau.
Ymhlith pethau eraill fe fydd yno y mae arddangosfa o anifeiliaid, gwenyn a cheir clasurol rhwng 10.30 am a 3.30pm.