Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi cyllideb ddrafft £15bn
- Cyhoeddwyd
Hybu twf economaidd, creu swyddi, buddsoddi mewn ysgolion ac ysbytai yw calon Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2013-14, meddai'r Gweinidog Cyllid.
Mae'r gyllideb werth £15 biliwn ac yn buddsoddi, meddai, yn nyfodol Cymru drwy gefnogi gwerthoedd megis cyfiawnder cymdeithasol, cynaliadwyedd a chydraddoldeb, a diogelu'r rhai mwyaf bregus mewn cymdeithas.
Bydd pleidlais derfynol ar y gyllideb yn debyg o ddigwydd yn ystod mis Rhagfyr.
Wrth wneud ei chyhoeddiad dywedodd Jane Hutt: "Ein prif flaenoriaeth yw cyflwyno Cyllideb ar gyfer Twf a Swyddi a fydd yn creu Cymru sy'n fwy llewyrchus, drwy annog twf economaidd a chreu a chynnal swyddi.
"Er gwaetha'r ffaith y bydd Cyllideb Cymru £2.1 biliwn yn is mewn termau real erbyn 2014-15 na'r hyn a fu yn ei anterth yn 2009-10 - o ganlyniad i doriadau gan Lywodraeth y DU, gan gynnwys gostyngiad o 45% mewn cyfalaf yn ystod y cyfnod hwnnw - rydym wedi gwneud yn siŵr fod cynnydd yng nghyllid pob un o adrannau Llywodraeth Cymru."
Diogelu
Dywedodd fod cynigion y gyllideb ar gyfer 2013-14 yn cynnwys:
(i) Parhau i ddiogelu'r gyllideb iechyd gyda chynlluniau ar gyfer ail flwyddyn y pecyn cyllid tair blynedd o £288m ar gyfer y GIG, a gyhoeddwyd yng Nghyllideb y llynedd hyd at 2014-15;
(ii) Ymrwymiad i dyfu'r gyllideb gwasanaethau cymdeithasol yn y Grant Cynnal Refeniw fydd erbyn 2014-15 £35m yn uwch bob blwyddyn na'r hyn oedd yn 2010-11;
(iii) Cyllid refeniw gwerth £20m, sy'n rhan o'r dyraniad ychwanegol o £55m a gyhoeddwyd yng Nghyllideb y llynedd, i gefnogi yr ymrwymiad i ddyblu nifer y plant sy'n elwa o Dechrau'n Deg - gan ddod â chyfanswm y buddsoddiad ychwanegol i Dechrau'n Deg dros y tair blynedd rhwng 2012-13 a 2014-15 i £74m;
(iv) Diogelu cyllid i ysgolion sy'n golygu buddsoddi £185m yn ychwanegol mewn ysgolion ers 2010-11;
(v) Cynnal ymrwymiad i'r Grant Amddifadedd Disgyblion gyda chyllid gwerth £36.8m yn 2013-14, cynnydd o £4.7m ers 2012-13;
(vi) Cynnal Buddion Cyffredinol fel presgripsiynau am ddim, tocynnau teithio rhad ar y bysiau, llaeth a brecwastau am ddim mewn ysgolion a nofio am ddim - sy'n golygu arbedion hanfodol i bobl Cymru ac yn helpu i leihau effaith y camau sy'n cael eu cymryd gan Lywodraeth y DU, fel Diwygio Lles.
Dywedodd Ms Hutt fod £175 miliwn yn ychwanegol o fuddsoddiad cyfalaf yn ystod y ddwy flynedd nesaf i "gefnogi prosiectau sy'n bwysig yn strategol ledled Cymru, gan greu neu gefnogi hyd at 3,000 o swyddi".
Trafnidiaeth
Mae hyn yn cynnwys £65m i wella trafnidiaeth, gan gynnwys £40m ar gyfer Rhaglen Deuoli'r A465 Blaenau'r Cymoedd o Fryn-mawr i Dredegar a £25m i wella Twnnel Conwy ar yr A55; £30m i ysbytai, gan gynnwys £18m i gefnogi'r gwaith o ailddatblygu Ysbyty Treforys, Abertawe, a £12m ar gyfer cyfleusterau iechyd meddwl i oedolion yn Ysbyty Llandochau, Caerdydd ac Ysbyty Glan-rhyd, Pen-y-bont ar Ogwr; £25m i ysgolion a cholegau, gan gynnwys £15m yn 2013-14 a fydd yn galluogi cyflymu nifer o gynlluniau o dan y rhaglen Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif.
Bydd £10m ychwanegol yn 2014-15 ar gyfer band eang cyflym i sicrhau y bydd pawb yn gallu derbyn y gwasanaeth hwn erbyn 2015.
Hefyd bydd £13m yn ychwanegol ar gyfer rhagor o gyllid cyfalaf i Dechrau'n Deg, £12m i ymestyn Partneriaeth Tai Cymru, £10m i wella effeithlonrwydd ynni domestig, £10m yn ychwanegol i gefnogi rhaglen o welliannau hanfodol i amddiffyn rhag llifogydd ac amddiffyn yr arfordir ledled Cymru.
'Economi gref'
Dywedodd y gweinidog: "Rydym am weld Cymru ag economi gref, Cymru gyda rhwydweithiau trafnidiaeth, TG ac ynni sy'n gweddu i'r unfed ganrif ar hugain, Cymru carbon isel a Chymru grefftus ac effeithlon gyda gwasanaethau cyhoeddus cryfion.
"Gan adeiladu ar y penderfyniadau rydym wedi'u gwneud yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf, rydym yn barod i wynebu'r heriau o'n blaenau ac rydym yn cymryd camau clir i'r cyfeiriad iawn er mwyn cyflawni dros Gymru."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Hydref 2012
- Cyhoeddwyd2 Hydref 2012