Arholiadau TGAU Cymru: Manylion graddau yn y pynciau craidd

  • Cyhoeddwyd
Dros hanner y disgyblion 15 oed safodd eu haroliadau TGAU eleni wedi cael graddau rhwng A* ac C
Disgrifiad o’r llun,

Dros hanner y disgyblion 15 oed safodd eu haroliadau TGAU eleni wedi cael graddau rhwng A* ac C

Cafodd ychydig dros hanner y disgyblion 15 oed wnaeth sefyll eu haroliadau TGAU eleni raddau rhwng A* ac C, gan gynnwys Saesneg neu Gymraeg iaith gyntaf a Mathemateg.

Roedd y cyfanswm o 50.5% ychydig yn uwch o'i gymharu â 50.1% o ddisgyblion gafodd y graddau y llynedd.

Ond mae ystadegau Llywodraeth Cymru yn dangos bod cyfradd y gwelliant wedi arafu yn y blynyddoedd diwethaf.

Mae'r ystadegau diweddaraf yn cael eu cyhoeddi yn dilyn ffrae rhwng Llywodraethau Cymru a San Steffan ynglŷn â chanlyniadau arholiad TGAU Saesneg Iaith yr haf yma.

Graddau gwell

Roedd ffigyrau y llynedd yn dangos bod safonau yng Nghymru wedi codi ond nad oedden nhw gystal â chanlyniadau yn Lloegr.

Bydd manylion canlyniadau Lloegr yn cael eu cyhoeddi ar Hydref 18.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud nad ydi hi'n bosib i gymharu ystadegau'r ddwy wlad yn uniongyrchol.

Ond mae gweinidogion yn cydnabod y gwahaniaethau rhwng Cymru a Lloegr.

Bu'n rhaid gohirio cyhoeddi ffigyrau Cymru am wythnos gan fod canlyniadau y disgyblion safodd bapur Saesneg Iaith Cyd Bwyllgor Addysg Cymru wedi cael eu hail raddio.

Cafodd bron i 2,400 o ddisgyblion yng Nghymru raddau gwell ar ôl i Leighton Andrews, y Gweinidog Addysg ymyrryd.

Doedd Michael Gove, Ysgrifenydd Addysg San Steffan ddim yn hapus â'r penderfyniad hwnnw a gwrthododd gymryd cam tebyg yn Lloegr.

Mae ffigyrau answyddogol Llywodraeth Cymru yn awgrymu bod nifer y disgyblion 15 oed ar ddechrau'r flwyddyn academaidd newydd wedi gostwng am y bumed flwyddyn yn olynnol i 35,409.

Roedd yna ostyngiad bychan o'i gymharu â'r llynedd yn nifer y disgyblion na chafodd unrhyw gymhwyster cydnabyddedig.

Roedd y cyfanswm yn 1.2% - gostyngiad o 0.6% ers 2010/11.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol