Gwahardd gweithiwr cymdeithasol
- Cyhoeddwyd
Mae gweithiwr cymdeithasol o Abertawe wedi ei gwahardd am 18 mis o'r Gofrestr Gweithwyr Gofal Cymdeithasol.
Casglodd Pwyllgor Ymddygiad Cyngor Gofal Cymru yng Nghaerdydd ei bod hi wedi camymddwyn.
Roedd Deborah Borley, a arferai weithio i Sanctuary Personnel, wedi torri'r Cod Ymarfer ar gyfer Gweithwyr Gofal Cymdeithasol am nad oedd wedi cadw cofnodion cywir, cynnal asesiadau risg, na dilyn polisïau a gweithdrefnau sy'n gysylltiedig ag achosion gofal plant.
Hefyd roedd hi wedi dangos rhagfarn mewn achos gofal plant ac wedi methu â chydweithio â gweithwyr proffesiynol eraill.
Penderfynodd y pwyllgor ei bod wedi torri chwe adran o'r cod ymarfer.
Ni fydd hi'n gallu galw ei hun yn weithiwr cymdeithasol na gweithio fel gweithiwr cymdeithasol nes i'r gorchymyn atal ddod i ben.
Nid oedd Ms Borley'n bresennol yn y gwrandawiad.