TGAU: Undeb yn anhapus

  • Cyhoeddwyd
Arholiad
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y manylion yn cael eu cyhoeddi ym mis Tachwedd

Mae undebau athrawon yn dweud bod nifer o'u haelodau yn gandryll gyda Llywodraeth Cymru ynglŷn â newidiadau yn y cwrs TGAU Saesneg Iaith.

Y tymor hwn daeth cadarnhad y bydd yna fwy o bwyslais ar yr arholiad yn hytrach na'r gwaith cwrs.

Hefyd bydd un uned yn cael ei ddileu yn llwyr.

Yn ôl y llywodraeth, mae'r newid i ddisgyblion blwyddyn 10 yn "gam hanfodol i sicrhau tegwch i ddisgyblion".

Ond yn ôl Undeb UCAC, mae'r llywodraeth yn ymateb yn fyrbwyll i'r ffrae ynglŷn â'r marciau a roddwyd i ddisgyblion yn yr haf.

Bydd y manylion newydd yn cael eu cyhoeddi ganol mis Tachwedd.

Daw penderfyniad Llywodraeth Cymru yn sgil ffrae gyhoeddus rhwng Leighton Andrews, Gweinidog Addysg Cymru a Gweinidog Addysg San Steffan, Michael Gove, wedi cyhoeddi canlyniadau TGAU eleni.

Wrth i'r canlyniadau gael eu cyhoeddi daeth i'r amlwg fod yna drefn marcio fwy llym wedi ei mabwysiadau.

'Annerbyniol'

Penderfynodd Llywodraeth Cymru y dylid ail-raddio'r papur arholiad - yn wahanol i'r hyn ddigwyddodd yn Lloegr.

Cafodd dros 2,000 o ddisgyblion raddau gwell wedi'r ail-raddio.

Nawr dywed Llywodraeth Cymru fod hefyd angen newid y cwrs ar gyfer disgyblion fydd yn eistedd arholiad yn 2014.

Dywedodd llefarydd ar ran undeb UCAC bod cyflwyno newidiadau i gwrs mae athrawon eisoes wedi dechrau'i ddysgu yn annerbyniol, ac yn dangos diffyg profiad ar ran y llywodraeth fel rheoleiddiwr arholiadau.

Mae angen rhybudd o o leiaf tymor ysgol cyn cyflwyno cyrsiau newydd, meddai'r undeb.

Maen nhw hefyd yn dweud bod rhai disgyblion wedi dysgu rhan o'r cwrs fydd nawr yn cael ei ddileu.

A dywed undeb yr NASUWT fod angen ailystyried y penderfyniad i newid cwrs fel mater o frys.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru:"Mae'r newid yn angenrheidiol er mwyn sicrhau bod myfyrwyr o Gymru yn derbyn triniaeth deg a chyfartal wrth eistedd arholiadau yn 2014.

"Nid ydym am i fyfyrwyr Cymru gael eu heffeithio gan newidiadau i ffiniau marcio sy'n cael eu penderfynu yn Lloegr

"Ar yr un pryd, rydym yn ymwybodol lle fod yna sefyllfa lle bod 60 o gymhwyster yn cael eu rheoli drwy asesiad, yn drefn lle nad oes yna gydbwysedd."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol