DVD i hyfforddi llawdriniaethau

  • Cyhoeddwyd
Professor PN HarayFfynhonnell y llun, Digimed
Disgrifiad o’r llun,

Roedd yr Athro PN Haray yn un o arloeswyr techneg llawdriniaeth laparoscopig, neu lawdriniaeth twll clo

Mae llawfeddyg ymgynghorol oedd yn un o arloeswyr y defnydd o lawdriniaeth twll clo i drin cyflyrau'r coluddyn wedi cyhoeddi DVD i gynorthwyo meddygon eraill.

Mae'r Athro PN Haray, sy'n gweithio yn Ysbyty'r Tywysog Charles ym Merthyr Tudful, wedi cynhyrchu DVD sy'n cynnwys delweddau y byddai llawfeddyg yn eu gweld wrth ddefnyddio camerâu bychain.

Mae triniaeth laparoscopig, neu lawdriniaeth twll clo, yn golygu bod cleifion yn gwella'n gynt gyda llai o gymhlethdodau na llawdriniaeth agored.

Maes cymhleth

Er hyn mae cyn lleied â thraean o gleifion yn y DU sydd angen llawdriniaeth ar y coluddyn yn cael y driniaeth.

Y broblem gan amlaf yw hyfforddi staff yn hytrach na chael yr offer angenrheidiol.

"Fel academydd, roedd disgwyl i chi ysgrifennu llyfrau ond mae'r amser wedi newid a bellach nid llyfr yw'r dull gorau o ledaenu gwybodaeth, yn enwedig mewn maes mor gymhleth â llawdriniaeth laparoscopig," meddai'r Athro Haray.

"Mae cleifion sy'n cael llawdriniaeth yn y bore yn medru eistedd, bwyta ac yfed erbyn y prynhawn - gyda llawdriniaeth agored fe fyddai'n ddau neu dri diwrnod cyn bod modd gwneud hynny.

"Mae llawer o'n cleifion adre o fewn 48 i 72 awr o gael llawdriniaeth."

Dim ond yn 2006 y cafodd y dechneg ei chymeradwyo gan NICE - y corff sy'n gyfrifol am safonau iechyd a chlinigol - ond bu'r Athro Haray yn flaenllaw mewn treialon mor bell yn ôl â 1998.

O ganlyniad i hynny mae 80% o'r llawdriniaethau i dynnu rhan o'r coluddyn yn Ysbyty'r Tywysog Charles yn defnyddio'r dechneg.

Mae'r niferoedd yn ysbytai eraill Cymru yn cynyddu gan fod yr Athro Haray wedi bod yn hyfforddi 17 o lawfeddygon eraill yn y dechneg.

Ffynhonnell y llun, Digimed
Disgrifiad o’r llun,

Mae cleifion sy'n cael llawdriniaeth yn y bore yn medru eistedd, bwyta ac yfed yn y prynhawn, medd Yr Athro Haray

Ei obaith nawr yw y bydd y DVD yn darparu'r un math o hyfforddiant i feddygon sy'n gweithio cannoedd neu filoedd o filltiroedd i ffwrdd.

"Mae'n deimlad gwych gwneud rhywbeth fel hyn. Roedd fy mam - oedd yn Athro Saesneg - yn arfer dweud eich bod yn dysgu o'r profiad o addysgu eraill," meddai'r Athro Haray.

"Mae'r DVD yn dysgu cam wrth gam gyda phob cam yn cael sylw manwl - mae hynny wedi fy ngwneud yn fwy ymwybodol o bob rhan o'r broses."

Mae tîm yr Athro Haray bellach yn datblygu 'app' rhyngweithiol ar gyfer ffonau symudol fydd yn galluogi llawfeddygon i ymarfer wrth deithio.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol