Cam-drin: Cameron yn galw am ymchwiliad

  • Cyhoeddwyd

Mae'r Prif Weinidog wedi dweud y bydd ymchwiliad annibynnol brys i honiadau fod gwleidydd Ceidwadol wedi cam-drin plant yng ngogledd Cymru yn y saithdegau a'r wythdegau.

Y nod fydd asesu a oedd methiannau yn Ymchwiliad Waterhouse yn 2000.

Mae Steve Messham wedi honni bod Ceidwadwr blaenllaw o gyfnod Thatcher wedi ei gam-drin yn rhywiol pan oedd yng nghartref gofal Bryn Estyn.

Dywedodd David Cameron fod cam-drin plant yn rhywiol yn "drosedd ffiaidd" ac y byddai Mr Messham yn cwrdd ag Ysgrifennydd Cymru, David Jones, ddydd Mawrth.

Yr un diwrnod mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, yn cwrdd â'r Comisiynydd Plant, Keith Towler, oherwydd ei fod yn galw am ymchwiliad newydd.

Dywedodd Mr Towler ei fod yn amau fod grŵp o bobl yn defnyddio safle o awdurdod er mwyn amddiffyn ei gilydd a chaniatáu i'r camdrin barhau.

Disgrifiad,

Bu Sara Young o Swyddfa'r Comisiynydd Plant yn sôn mwy wrth Nia Thomas ar raglen y Post Cynta' fore Llun.

Ar raglen Sunday Politics Wales dywedodd y byddai'n ysgrifennu at Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, yn gofyn am ymchwiliad newydd.

Dywedodd Sara Young o Swyddfa'r Comisiynydd Plant ar raglen y Post Cynta' ei bod yn bwysig bod yr ymchwiliad yn annibynnol.

'Pryderus iawn'

Yn ôl llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae Llywodraeth Cymru yn bryderus iawn ynglŷn â'r honiadau a byddwn yn edrych ar y dystiolaeth.

"Er bod yr honiad yn cyfeirio at y cyfnod cyn datganoli, rydym yn credu mewn tryloywder wrth ddelio gyda materion fel hyn ond ni allwn wneud rhagor o sylwadau tan ein bod yn gweld mwy o fanylion."

Dywedodd llefarydd ar ran Downing Street y dylai honiadau o gam-drin gael eu hadrodd i'r heddlu a'u hymchwilio'n drwyadl.

"Pe bai rhywun yn poeni bod honiadau a wnaed yn y gorffennol heb eu hymchwilio'n llawn yna dylid codi'r mater gyda'r heddlu neu awdurdod perthnasol er mwyn edrych ar y sefyllfa unwaith yn rhagor."

Roedd Mr Messham yn un o gannoedd o blant yn gysylltiedig â chartref Bryn Estyn.

'Anghywir'

Dywedodd mai dim ond "ychydig" o'r hyn ddigwyddodd ddaeth i sylw Ymchwiliad Waterhouse yn 2000.

Dywedodd Mr Towler wrth y BBC: "Yn ystod y 24 awr ddiwethaf rydym wedi clywed am ganllawiau Ymchwiliad Waterhouse.

"Mae'r ffaith fod rhywun ... rhywun oedd yn amlwg yn ddioddefwr yn Bryn Estyn ... yn dweud bod yr hyn yr oedd am ei ddweud y tu hwnt i ffiniau'r ymchwiliad ... a bod pobl wedi dweud wrtho na ddylai wneud y sylwadau ... mae hynny'n gwbl anghywir."

Yn y 70au a'r 80au roedd yna achosion o dreisio a chamdrin plant mewn cartrefi gofal yng Ngogledd Cymru a hynny gan bobl oedd yn gofalu amdanynt.

Yn y 1990au fe ddaeth yr honiadau i sylw cyhoeddus ac ym Mawrth 1994 comisiynodd Cyngor Clwyd ymchwiliad annibynnol.

Ond ni chafodd adroddiad yr ymchwiliad ei gyhoeddi. Yn hytrach cafodd copïau eu dinistrio er mwyn amddiffyn polisi yswiriant yr awdurdod lleol.

Yng ngoleuni hyn ac anesmwytho cyhoeddus gorchmynnodd Ysgrifennydd Cymru, William Hague, ymchwiliad ym 1996 - ymchwiliad i achosion cam-drin plant mewn cartrefi gofal yng Nghlwyd a Gwynedd.

'Blaenllaw'

Fe glywodd ymchwiliad dan arweinyddiaeth Syr Ronald Waterhouse dystiolaeth dros 650 o bobl oedd wedi bod mewn gofal.

Roedd sôn am fodolaeth "ffigwr blaenllaw" ond, yn ôl cwnsel y tribiwnlys, doedd yna ddim tystiolaeth sylweddol i gefnogi'r honiadau.

Soniodd Ymchwiliad Waterhouse am 28 o bobl honedig oedd yn cam-drin ond ni chafodd eu henwau eu rhyddhau'n gyhoeddus.

Dywedodd Mr Towler: "Mae'n hawdd nawr i ni fod yn amheus am y cyfyngiadau a roddwyd ar yr ymchwiliad ... oherwydd nawr yn 2012 byddai hynny'n annerbyniol. "

Pan ofynnwyd iddo a oedd yn credu bod rhai wedi ceisio celu'r gwirionedd dywedodd: "Yr unig ffordd i roi taw ar hyn yw dweud ... y byddwn yn cynnal ymchwiliad ac y byddwn yn caniatáu i'r ymchwiliad i fynd yn bellach a bod angen er mwyn sicrhau bod tystiolaeth y mae dioddefwyr am ei rhoi yn cael ei chlywed.

'Amheuaeth'

"Oni bai eich bod hyn gwneud hynny fe fydd yna lefel o amheuaeth yn parhau am beth ddigwyddodd, bod yna elfen o gelu'r gwirionedd, bod angen amddiffyn rhywun ... a ni ddylid amddiffyn unrhyw un."

Ym 1994 cafodd Peter Howarth, dirprwy bennaeth Bryn Estyn ei garcharu am 10 mlynedd am iddo gam-drin bechgyn yn rhywiol. Bu o farw yn y carchar.

Fe all unrhyw un sydd â gwybodaeth am y cam-drin neu sydd angen cymorth ynglŷn â'r pynciau a godwyd gysylltu â'r NSPCC ar 0808 800 500 neu gysylltu â'r heddlu ar 101.