Llygoden Ddŵr: Parc arfordirol ar gau

  • Cyhoeddwyd
Llygoden ddwrFfynhonnell y llun, Brian Chard

Bydd rhannau o barc arfordirol ar gau am gyfnod wrth i gorf cadwriaethol fynd i'r afael ag anifail sy'n bygwth cynefin y llygoden ddŵr.

Dywed swyddogion Asiantaeth yr Amgylchedd fod y minci hefyd yn ymosod ar hwyaid ar Barc Arfordirol y Mileniwm yn Llanelli.

Bydd maglau yn cael eu gosod ym mhyllau Dyfatti a Towyn Bach ddydd Gwener er mwyn dal y minci.

Ers chwe blynedd mae cadwriaethwyr wedi bod yn dilyn rhaglen i geisio adfer poblogaeth y llygoden ddŵr yn ardal Llanelli.

Y bwriad yn y pendraw i'w ehangu'r boblogaeth i'r gwlypdir o amgylch Cydweli.

Mae'r rhaglen i reoli poblogaeth y minci yn cyd-fynd â rhaglen i reoli poblogaeth y llyfrothen -topmouth gudgeon-

Bydd cemegau yn cael ei roi yn y ddau bwll er mwyn lladd y llyfrothen sy'n rhywogaeth estron i'r ardal.

Ni fydd y cemegau yn effeithio pobl, adar nac anifeiliaid eraill.

Pan mae niferoedd mawr o bysgod maen nhw'n gallu cymryd rheolaeth o ardal gan fwyta wyau pysgod eraill.

Fel rhan o'r prosiect bydd rhai llwybrau o fewn y Parc Mileniwm yn cau am gyfnod.

Mae Asiantaeth yr Amgylchedd, Cyngor Cefn Gwlad a Chyngor Sir Caerfyrddin yn cydweithio ar y prosiect.

Dywedodd Steve Brown fod y llyfrothen yn dod yn wreiddiol o Asia.

"Dylai'r pysgodyn ddim bod yn ein hafonydd a'n llynnoedd," meddai.

"Mae'n bwysig ein bod yn eu gwaredu cyn iddynt gael effaith ddinistriol ar bysgod eraill."

Nod y cynllun yw dileu'r pysgodyn o bump o byllau neu lynnoedd Parc y Mileniwm erbyn 2017.