Llai o bobl yn ddi-waith yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Arwydd canolfan waith
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr ystadegau diweddara eu cyhoeddi ddydd Mercher

Mae nifer y bobl ddi-waith yng Nghymru wedi gostwng 5,000 yn y tri mis hyd fis Fedi, yn ôl ystadegau swyddogol.

Roedd 121,000 o ddynion a menywod yn ddi-waith yn ystod y cyfnod yng Nghymru, 14,000 yn llai na'r un cyfnod y llynedd.

Erbyn hyn, canran y di-waith yng Nghymru yw 8.2% tra bod 7.8% yn ddi-waith yng ngweddill Prydain ar gyfartaledd.

Ond mae diweithdra ymhlith menywod wedi codi 3,000, yn ôl y Swyddfa Ystadegau, ac wedi cwympo 7,000 ymhlith dynion.

Roedd mwy'n gwneud cais am fudd-dal chwilio am waith, 80,700 ym mis Hydref, sef cynnydd o 700.

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, David Jones fod yr ystadegau yn "arwydd bod y sector preifat yn dechrau hybu twf yng Nghymru".

Er bod 'na fwy o waith i'w wneud, meddai: "Roeddem yn iawn i sefydlogi yr economi drwy ganolbwyntuio ar dorri'r diffyg a rhoi mwy o ryddid i fusnesau i ddatblygu."

'Newyddion da'

Yn y cyfamser, mae Gweinidog Busnes Llywodraeth Cymru, Edwina Hart, wedi gofyn i Lywodraeth San Steffan estyn cynllun rhyddhad ardrethi i fusnesau bychain y tu hwnt i fis Mawrth 2013.

Mae Gweinidog Cysgodol Plaid Cymru ar yr economi, Alun Ffred Jones AC, wedi dweud: "Mae llai o ddiweithdra yn newyddion da i economi Cymru, yn enwedig gyda'r niferoedd mewn gwaith yn codi.

"Fodd bynnag, yng Nghymru mae graddfa ddiweithdra uchaf gwledydd y DG ac y mae bron 50,000 yn fwy o bobl yn chwilio am waith yng Nghymru nac oedd bum mlynedd yn ôl pan gychwynnodd y dirwasgiad".