Cwynion am 'ddeuawdau doniol'
- Cyhoeddwyd
Mae S4C yn cynnal ymchwiliad ar ôl derbyn cwynion am beth o gynnwys Eisteddfod Ffermwyr Ifanc gafodd ei ddarlledu nos Sadwrn.
Cafwyd cwynion ar wefan Twitter yn dilyn y rhaglen fod rhai o'r sgetsus o'r llwyfan yn hiliol ac yn ddilornus o ferched.
Mae S4C hefyd wedi tynnu'r rhaglen oddi ar Clic (gwasanaeth edrych unwaith eto ar hen raglenni) tro bod yr ymchwiliad yn cael ei gynnal.
Dywedodd Dafydd Rhys, Cyfarwyddwr Cynnwys S4C, ar raglen Taro'r Post Radio Cymru: "Rydym yn cymryd y cwynion o ddifrif ac os byddwn ni'n dod i'r farn bod y cynnwys wedi tramgwyddo, mae'n rhaid i ni neud rhywbeth amdano fe.
"Felly ffwlbri yn fy marn i fydda cario mlaen i ddarlledu (ar Clic) cyn bod ni wedi dod i gasgliad ar y peth."
'Sarhaus'
Un o'r rhai fu'n cwyno ar wefan Twitter oedd Malan Vaughan Wilkinson.
Dywedodd hithau ar raglen Taro'r Post: "Mi ddarlledwyd dwy eitem o'n i'n ystyried yn annerbyniol o sarhaus ...roedd y ddwy yn y gystadleuaeth y ddeuawd ddoniol....mi ddifethodd hyn eisteddfod oedd yn hynod dda o ran safon."
"Roedd un o'r sgetsus yn cynnwys dau ddyn o China," ychwanegodd.
"Roedd popeth am y sgets yn sarhaus... o'r 'stumiau i'r make up, i'r ffordd maen nhw wedi gwisgo i fychanu'r iaith..., diflas oedd gweld rhywbeth fel hyn ar ein Sianel Genedlaethol."
Dywedodd fod sgets arall - gyda dau ddyn yn chwarae rhan gŵr a gwraig - oedd yn son am ddynes yn cael plentyn y tu allan i briodas - yn sarhaus i ferched ac yn hiliol.
Dim malais
Cafodd yr Eisteddfod hefyd ei darlledu ar BBC Radio Cymru.
Dywedodd llefarydd ran BBC Cymru na fyddan nhw'n gwneud sylw.
Dywedodd Gwenno Griffith, cadeirydd Mudiad y Ffermwyr Ifanc, y byddant yn edrych ar y pwyntiau sydd wedi cael eu codi ac yn eu hystyried yn y drafodaeth adolygu.
"Hoffwn ddweud yn y lle cyntaf ein bod yn ymddiheuro pe bai ni wedi achosi loes - nid dyna oedd ein bwriad o gwbl, a gallwn eich sicrhau chi nad oedd malais mewn unrhyw beth aeth ar y llwyfan."