Pryder am nifer menywod di-waith
- Cyhoeddwyd
Mae mudiad hawliau cyfartal yn dweud eu bod yn bryderus ynglŷn â nifer y menywod sy'n ddi-waith.
Fe wnaeth nifer y di-waith yng Nghymru ostwng i 121,000 yn y tri mis hyd fis Medi yn ôl y Swyddfa Ystadegau.
Ond bu cynnydd o 12,000 yn nifer y menywod sy'n ddi-waith i 59,000.
Bu gostyngiad o 26,000 yn nifer y dynion sy'n ddi-waith, gan olygu cyfanswm o 63,000.
'Gwaethygu'
Mae Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn dweud eu bod yn poeni y bydd y sefyllfa o ran menywod yn gwaethygu.
"Rwy'n credu ei fod yn hynod o bryderus, meddai Kate Bennett, cyfarwyddwr y Comisiwn wrth raglen Sunday Poltitics BBC Cymru.
"Mae nifer o wragedd, yn enwedig rhai hŷn, yn derbyn cyflogau isel neu mewn gwaith rhan amser.
"Pe ba'i chi mewn gwaith rhan amser neu ar gyflog isel mae swyddi o'r fath, o bosib, dan fwy o fygythiad wrth i swyddi ddiflannu.
"Rwy'n meddwl y bod hi'n sefyllfa bryderus pe bai'r camau ymlaen sydd wedi digwydd dros yr hanner can mlynedd diwethaf yn dechrau cael eu herydu.
Dengys ystadegau eraill fod nifer y merched rhwng 50-64 sy'n ddi-waith yng Nghymru wedi dyblu rhwng Medi 2011 a Medi 2012, o 5,000 i 10,000.
Dywed Rhianydd Williams, swyddog polisi gyda Cyngres yr Undebau Llafur yng Nghymru fod nifer o fenywod yn y grŵp oedran yma gyda chyfrifoldebau am ofalu am blant, rhieni neu wyrion - cyfrifoldebau sy'n ei gwneud yn anodd ar adegau i gadw gwaith llawn amser.
"Beth sy'n ein poeni yn ddirfawr yw bod cynifer o fenywod o bosib yn colli'r cyfle o waith llawn amser oherwydd cyfrifoldebau gofal, ac felly yn dod yn ddi-waith neu yn weithwyr rhan amser.
"Byddwn yn ffafrio mwy o oriau gwaith hyblyg, fel bod menywod yn gallu cwmpasu gwaith gyda chyfrifoldebau gofal."
Dywed Dr Martin Rhisiart o Ysgol Fusnes Prifysgol Morgannwg, fod diweithdra ymhlith menywod yn debygol o gynyddu'r flwyddyn nesa.
Rydym yn debygol o weld mwy o weithwyr y sector gyhoeddus yn colli swyddi, ac oherwydd bod nifer o'r rhain yn fenywod byddwn yn disgwyl i ganran diweithdra ymhlith menywod yn enwedig menywod hhŷnn gynyddu.
Mae rhaglen Sunday Politics ar BBC Un Cymru am 11.00