Asbestos: ACau yn trafod cynlluniau ar gyfer cyflogwyr

  • Cyhoeddwyd
Pelydr x ysgyfaint
Disgrifiad o’r llun,

Mae mesothelioma, ffurf ar ganser, yn datblygu am flynyddoedd

Mae Aelodau'r Cynulliad wedi bod yn trafod cynlluniau allai arwain at ddeddf lle bydd cyflogwyr neu yswirwyr yn gorfod talu'r Gwasanaeth Iechyd am drin cleifion sydd â salwch yn ymwneud ag asbestos.

Mae'r syniad wedi ei gyflwyno gan Aelod Cynulliad Pontypridd, Mick Antoniw.

Dywedodd y byddai'r arian, tua £2 miliwn y flwyddyn, yn darparu cymorth ychwanegol i gleifion a'u teuluoedd.

Pe bai'r mesur yn cael cefnogaeth fe all ddod yn ddeddf.

O dan y cynlluniau bydd arian sy'n cael ei hawlio gan gyflogwyr neu yswirwyr yn cael ei wario ar ofal a gwaith ymchwil i driniaeth ar gyfer bobl sy'n diodde' o afiechydon sy'n gysylltiedig ag asbestos.

Cyn cael ei ethol y llynedd roedd Mr Antoniw yn gyfreithiwr yn cynrychioli dioddefwyr a theuluoedd dioddefwyr afiechydon fel mesothelioma ac asbestosis.

Dywedodd fod costau trin yr afiechydon yn straen ariannol ar Wasanaeth Iechyd Cymru.

'Y gost sylweddol'

Fe ddylai cyflogwyr esgeulus, meddai, fod yn atebol am y gost i'r Gwasanaeth Iechyd o drin achosion sy'n gysylltiedig ag asbestos.

"Mae'r mesur yn cydnabod effaith drasig clefydau asbestos ar weithwyr Cymru a'u teuluoedd ac yn cydnabod y gost sylweddol i'r Gwasanaeth Iechyd," meddai.

Cafodd asbestos ei wahardd yn llwyr yn y DU yn 1999 ar ôl iddi ddod yn amlwg fod bygythiad difrifol i iechyd.

Yn ôl ystadegau'r llywodraeth, mae 4,500 yn marw bob blwyddyn o afiechydon sy'n gysylltiedig ag asbestos yn y DU.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol