'Angen datrys' anghydfod treth

  • Cyhoeddwyd
HousesFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Mae dros 330,000 o gartrefi yn derbyn budd-dal treth y cyngor

Mae pennaeth yr elusen ddigartrefedd, Shelter, wedi annog Aelodau Cynulliad i ddatrys anghydfod ynglŷn â threth y cyngor.

Methodd y Cynulliad ddydd Mercher â chefnogi mesurau newydd yn ymwneud â threth y cyngor ac mae 'na berygl y bydd rhaid i'r Cynulliad gyfarfod yn ystod gwyliau'r Nadolig.

Dywedodd John Puzey, Cyfarwyddwr Shelter Cymru, y byddai'r ffrae yn y Cynulliad yn creu "pryder diangen" i bobol sy'n dibynnu ar y budd-dal.

"Mae'n hysbys fod 'na bobol sy'n mynd i fod ar eu colled ac mae'n bwysig cael eglurder cyn gynted â phosibl," meddai.

Hanner awr

Mae'r gwrthbleidiau yn hawlio fod Gweinidogion wedi disgwyl i Aelodau Cynulliad ddarllen ac ystyried dogfen 300 tudalen yn amlinellu'r cynlluniau - o fewn hanner awr cyn pleidleisio.

Llywodraeth Cymru gafodd gyfrifoldeb gweinyddu'r drefn dreth y cyngor ond mae'n colli 10% o'r arian i weinyddu'r system.

Mae Llywodraeth Cymru yn hawlio mae blerwch ar ran y Trysorlys oedd y rheswm am yr oedi ond mae'r Trysorlys yn gwadu hynny.

Maen nhw a'r gwrthbleidiau wedi gofyn sut mae gweddill y DU yn gallu bod yn barod tra bod Cymru ar ei hôl hi.

Dywedodd cyn arweinydd Cyngor Caergrawnt, Siân Reid, wrth raglen CF99 fod y cyngor yno wedi cynnal ymgynghoriad ac wedi penderfynu codi treth ar ail gartrefi gwag er mwyn cyfrannu i'r gronfa.

"Mae cynghorau ar draws Lloegr yn yr un cwch yn union ac wedi penderfynu gweithredu ar sail y wybodaeth oedd wrth law".

Dim arian

Mae'r Gweinidog Llywodraeth Leol, Carl Sergeant, wedi mynnu nad yw'r £20 miliwn sydd ei angen i lenwi'r twll ar gael.

Dywedodd y Ceidwadwyr nad oedd angen y ffrae gan fod 'na fargen wedi ei tharo hefo nhw - ond bod Llafur wedi cefnu ar y cytundeb fore Mercher.

Mae arweinydd y Torïaid, Andrew R T Davies, wedi dweud mai blerwch llwyr ar ran y llywodraeth sydd wedi creu'r sefyllfa.

Cafwyd ar ddeall fod y Prif Weinidog Carwyn Jones yn ceisio cael caniatâd i gynnal cyfarfod o'r Cynulliad yn ystod gwyliau'r Nadolig.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol