Llai yn siarad Cymraeg yn ôl ystadegau Cyfrifiad 2011
- Cyhoeddwyd
Mae 'na gwymp yn nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru yn ôl canlyniadau Cyfrifiad 2011.
Yn 2001 roedd 20.5% yn nodi eu bod yn gallu siarad Cymraeg ac yn 2011 roedd y ffigwr gyfatebol yn 19.0%.
Er bod poblogaeth Cymru wedi tyfu ers Cyfrifiad 2001, mae nifer y siaradwyr Cymraeg wedi gostwng o 582,000 yn 2001 i 562,000 yn 2011 o boblogaeth o 2,955,841 sydd dros dair oed.
Cafodd y wybodaeth ei chyhoeddi gan Y Swyddfa Ystadegau Gwladol, dolen allanol wrth iddyn nhw ryddhau mwy o wybodaeth o ganlyniadau Cyfrifiad 2011.
Mae 'na ostyngiadau sylweddol yn yr ardaloedd Cymraeg traddodiadol wrth i'r cwymp mwya fod yn Sir Gaerfyrddin.
Dim ond yng Ngwynedd ac Ynys Môn y mae dros hanner y boblogaeth yn siarad yr iaith bellach.
Yn Sir Gaerfyrddin 43.9% sy'n gallu siarad Cymraeg yn 2011 (50.3% yn 2001).
Nododd yr ystadegydd Peter Stokes o'r Swyddfa Ystadegau Gwladol bod awdurdodau lleol eraill yn y gorllewin, Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Powys, Ceredigion, Penfro, Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot i gyd wedi gweld gostyngiad o 2% neu fwy yng nghyfran y siaradwyr Cymraeg.
Sefydlogrwydd y brifddinas
Roedd y gostyngiadau yng nghyfrannau'r bobl sy'n gallu siarad Cymraeg yn llai ar gyfer awdurdodau dwyrain Cymru.
Dywedodd bod cynnydd yn nifer y bobl yng Nghaerdydd sy'n gallu siarad Cymraeg o 32,500 yn 2001 i 36,700 yn 2011 ond roedd cynnydd sylweddol ym mhoblogaeth Caerdydd yn gyffredinol dros yr un cyfnod yn golygu bod cyfran y rhai sy'n gallu siarad Cymraeg yn y brifddinas wedi aros yn weddol sefydlog (11.1% yn 2011, 11.0% yn 2001).
"Bu cynnydd o tua 1,000 yn nifer y bobl sy'n gallu siarad Cymraeg, yng Nghaerffili, er bod y gyfran wedi aros yr un fath yno," eglurodd.
"Bu cynnydd bach yn Sir Fynwy yng nghyfran y bobl sy'n siarad Cymraeg o 9.3% yn 2001 i 9.9% yn 2011."
Roedd 80% o bobl Cymru rhwng 45 a 49 oed yn dweud nad oedd ganddyn nhw unrhyw sgiliau mewn Cymraeg gyda 47% rhwng 10 a 14 oed yn dweud nad oedd ganddyn nhw ddim sgiliau Cymraeg.
Roedd y nifer mwyaf o bobl heb sgiliau mewn Cymraeg ym Mlaenau Gwent (88%) a dywedodd dros 95% o'r rhai dros 25 oed a 52% o'r rhai rhwng 10 a 14 oed nad oedd ganddyn nhw unrhyw allu mewn Cymraeg.
Ystadegau Sgiliau iaith Gymraeg rhai dros 3 oed (Swyddfa Ystadegau Gwladol), dolen allanol
Roedd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi rhybuddio cyn i'r ystadegau gael eu cyhoeddi mai'r her nesaf i'r Gymraeg yw sicrhau bod pobl yn ei siarad y tu allan i'r dosbarth.