Cyhoeddi bandiau ysgolion uwchradd am yr ail flwyddyn yn olynnol
- Cyhoeddwyd
Am yr ail flwyddyn yn olynol, bydd ysgolion uwchradd Cymru'n clywed ym mha fand perfformiad mae Llywodraeth Cymru wedi'u hasesu.
Mae'r ysgolion yn cael eu mesur yn ôl cyfres o ffactorau dros y tair blynedd ddiwethaf, yn cynnwys canlyniadau TGAU, presenoldeb disgyblion, a nifer y disgyblion sy'n derbyn cinio am ddim.
Yn ôl y llywodraeth, bwriad y broses yw helpu awdurdodau lleol Cymru a'r consortia newydd i gynnal eu hysgolion yn fwy effeithiol, a gwella safonau a pherfformiad ysgolion ar draws y wlad.
Maen nhw'n dweud nad y bwriad yw rhoi label na difenwi unrhyw ysgolion, na chreu cynghrair o ysgolion, ond rhoi ysgolion mewn grwpiau er mwyn gweld pa rai sydd angen cymorth a pha rai sy'n esiampl dda i eraill.
Ond, pan gafodd y ffigurau bandio cynta'u cyhoeddi ym mis Ionawr, doedd dim croeso gan undebau athrawon na phenaethiaid, a chymysg oedd ymateb rhieni.
Fawr o wahaniaeth
Daeth i'r amlwg yr adeg yma'r llynedd bod rhai ysgolion mewn band isel, er eu bod nhw wedi perfformio'n dda o ran canlyniadau TGAU a'u hadroddiadau Estyn.
Cafodd Ysgol Gyfun Ystalyfera yng Nghwm Tawe ei gosod ym mand un yn 2011, ond yn ôl y pennaeth, Mathew Evans, dyw'r bandio ddim wedi gwneud llawer o wahaniaeth i'r ysgol nac i'r rhieni,
"Maen nhw'n son amdan natur ysgol, ethos ysgol, ysbryd ysgol.
"I riant, yn y pendraw, ydi fy mhlentyn i yn hapus i fynd i'r ysgol (sy'n bwysig)? Ac ydyn nhw yn cyflawni o fewn eu galluoedd a'u talentau? Ac ydyn nhw'n cael eu hysbrydoli o fewn yr ysgol?
"Nawr dyw'r pethau yna ddim yn cael eu mesur o fewn bandio ysgolion, ac felly mae'r bandio yn ddefnyddiol, mae'n un mesur, ac mae'n ffocws clir iawn ar un agwedd o berfformiad ysgolion.
"Ond ydi o'n dweud y cyfan? Wrth gwrs nac ydi!"
Mae'r llywodraeth yn defnyddio fformiwla gymhleth gan ystyried 12 mesur i gynhyrchu sgôr ar gyfer pob un o ysgolion uwchradd Cymru - 219 i gyd. Bydd yr ysgolion gorau ym mand 1, tra bod yr ysgolion sydd ddim yn gwneud cystal ym mand 5.
Cefnogaeth amrywiol
Cafodd pob ysgol ym mand 4 a 5 £10,000 y llynedd tuag wella safonau. Ond yn ôl Cyfarwyddydd undeb penaethiaid NAHT Cymru, Anna Brychan, dyw deng mil o bunnau ddim yn swm aruthrol fawr yng nghyd-destun cyllideb ysgolion.
"Mae 'na wahaniaeth barn wedi bod ynglŷn â safon y gefnogaeth mae ysgolion wedi cael wrth awdurdodau lleol er enghraifft.
"Mi fydden i yn dweud bod ysgolion uwchradd yn benodol yn teimlo nad yw'r gefnogaeth wedi bod yno bob amser."
Beth fydd yn ddiddorol heddiw fydd gweld faint o ysgolion ym mand 4 a 5 sydd wedi codi i fandiau uwch, yn enwedig ar ôl cael cymorth ychwanegol gan y llywodraeth.
Ond, pe bai ysgol eich plentyn chi yn disgyn i fand is eleni, neges y llywodraeth yw na ddylai rhieni boeni'n ormodol am hynny.
Maen nhw'n dweud mai system i adlewyrchu os yw ysgolion yn cyflwyno gwelliannau cymharol â'i gilydd yw hon - ac nid dangos os yw ysgol wedi gwella neu waethygu flwyddyn ar ôl blwyddyn.
Felly, mewn theori, gallai ysgol fod mewn band is er bod eu canlyniadau'r un fath; gall band ysgol newid gan fod ysgolion eraill wedi profi gwelliant a graddfa uwch.
Manylion dealladwy
Dyw'r llywodraeth ddim wedi penderfynu eto a fyddan nhw'n rhoi cyllideb ychwanegol i'r ysgolion yn y bandiau is eto eleni.
Ond eu cyngor nhw i rieni sydd â phlant yn yr ysgolion hynny yw i holi cwestiynau i weld pa fesurau maen nhw'n bwriadu eu gweithredu i sicrhau gwelliant.
Serch hynny, yn ôl Anna Brychan o'r NAHT, dyw'r system yma ddim yn llwyddo cyflawni ei nod o wella safonau.
"Mae eisiau system clyfrach na hwn, fydd yn rhoi manylion mwy dealladwy i rieni ac eraill, ac yn ein galluogi ni hefyd os oes 'na broblemau yn y system i roi'r gefnogaeth yn y mannau iawn.
"Dyw'r dull yma ddim yn help mawr yn hynny o beth."
Bydd y canlyniadau'n cael eu cyhoeddi am 12pm ddydd Mawrth ac yn y cyfamser, mae cynlluniau o hyd i gyflwyno system fandio i ysgolion cynradd erbyn 2014.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Ionawr 2012