Llawdriniaeth i fwy o bobl ordew?

  • Cyhoeddwyd
An obese womanFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Mae cyfraddau gordewdra yng Nghymru wedi cynyddu ers 2003

Mae adolygiad yn ystyried a ddylid cynnig llawdriniaeth i helpu mwy o bobl ordew i golli pwysau.

Mae gweinidogion yn aros am adroddiad ynghylch y meini prawf sy'n penderfynu a yw rhywun yn gymwys.

Mae'r adolygiad hefyd yn ystyried y gost i'r gwasanaeth iechyd o newid y canllawiau.

Yn ôl y Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol (Nice), dylai'r llawdriniaeth fod ar gael at gyfer pobol sydd â Mynegai Màs y Corff o 40.

Y mae hefyd yn argymell llawdriniaeth ar gyfer pobol â Mynegai Màs y Corff o 35 os oes ganddyn nhw broblemau iechyd eraill, fel clefyd y siwgr neu bwysau gwaed uchel.

Yng Nghymru mae trothwy Mynegai Màs y Corff yn 50, ond mae'r pwyllgor annibynnol yn adolygu'r polisi.

Mae disgwyl i Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru gyflwyno ei gasgliadau i'r Gweinidog Iechyd Lesley Griffiths erbyn diwedd y mis.

'Adnoddau prin'

Mae Jonathan Barry, llawfeddyg yn Ysbyty Treforys, o'r farn y dylai Cymru leihau'r trothwy.

"O fewn blwyddyn/15 mis fe gyfeiriwyd 1,000 o bobl atom o bob rhan o Gymru, ond dim ond 67 oedd yn gymwys i gael llawdriniaeth".

Yn ôl y Gweinidog Iechyd Lesley Griffiths mae'r meini prawf yng Nghymru wedi eu llunio i ddefnyddio "adnoddau prin" ar y bobl sydd eu hangen fwyaf.

Ychwanegodd y bydd yn gwneud datganiad ar y pwnc ym mis Ionawr ar ôl derbyn yr adroddiad.

Mae dros hanner oedolion Cymru dros eu pwysau neu'n ordew, yn ôl yr adroddiad diweddaraf am iechyd y Cymry, dolen allanol.

Mae'r arolwg blynyddol yn dangos bod y broblem yn effeithio ar 57% o oedolion gyda 22% yn ordew. Yn ogystal, mae 35% o blant yn cael eu hystyried dros eu pwysau gydag 19% yn ordew.

Ymhlith y canlyniadau, mae'n dweud bod :-

  • Cyfraddau gordewdra wedi cynyddu ers 2003, ond yn cynyddu'n arafach ers 2007;

  • Gostyngiad bach ers 2008 yng nghanran oedolion Cymru oedd yn bwyta pump neu fwy o ddarnau o ffrwyth a llysiau bob dydd;

  • Lefelau ymarfer corff wedi aros yn weddol gyson rhwng 2003 a 2011.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol