Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol i ofalu am Dŷ a Gerddi Dyffryn

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Adroddiad Luned Gwyn

Mae seremoni'n cael ei chynnal wrth drosglwyddo rheolaeth tŷ a gerddi ym Mro Morgannwg i ofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Yr ymddiriedolaeth fydd yn rheoli prydles Tŷ a Gerddi Dyffryn am 50 mlynedd o'r mis hwn ymlaen.

Cyngor Bro Morgannwg sydd wedi rheoli'r gerddi ers 1996 ac maen nhw wedi sicrhau dros £6 miliwn o grant Cronfa Treftadaeth y Loteri i adfer y gerddi.

Y cyngor fydd y perchnogion o hyd.

"Mae datblygu gardd odidog yn brosiect tymor hir," meddai Justin Albert, cyfarwyddwr yr ymddiriedolaeth yng Nghymru.

'Angerdd'

"Mae gwaith pawb sydd wedi bod yn gysylltiedig â Gerddi'r Dyffryn ers ei dechreuad - y teulu Cory, Thomas Mawson, Cyngor Bro Morgannwg, Cadw a Chronfa Treftadaeth y Loteri - wedi arwain at safle rhyfeddol.

"Ac mae angerdd gwirfoddolwyr, staff a chefnogwyr wedi bod yn hollbwysig.

Ffynhonnell y llun, BBC / Cyngor Bro Morgannwg
Disgrifiad o’r llun,

Y cyngor fydd y perchnogion o hyd

"Bydd angen yr angerdd ar gyfer cyfnod newydd."

Dywedodd y Cynghorydd Gwyn John, yr Aelod Cabinet dros Hamdden, Parciau, Diwylliant a Datblygu Chwaraeon, fod trosglwyddo rheolaeth yn gam pwysig i ddiogelu dyfodol y tŷ a'r gerddi.

"Mae'r cyngor wedi gwneud gwaith mawr i adfer y tŷ â'r gerddi ers 1996," meddai.

'Cyffrous'

"Yn ogystal ag adfer y gerddi a'r tai gwydr, rydyn ni hefyd wedi datblygu cyfleusterau ardderchog i ymwelwyr ...

"Mae'r lle â dyfodol cyffrous yn rhan o bortffolio'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac rydyn ni'n edrych ymlaen at weld y gerddi a'r tŷ'n cael eu datblygu.

"Hoffwn ddiolch i bob un o'n staff sydd wedi gweithio ar y prosiect ac i Gronfa Treftadaeth y Loteri am eu cefnogaeth dros y blynyddoedd."

Dywedodd Jennifer Stewart, Pennaeth Cronfa Treftadaeth y Loteri yng Nghymru, fod y tŷ a'r gerddi ymhlith "ein trysorau mwyaf arwyddocaol".

"Rydyn ni'n hynod o falch y bydd dros £6 miliwn yn cael ei fuddsoddi oherwydd arbenigedd a phrofiad yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

"Fe barhawn ni i weithio'n agos â'r tîm yn Nhŷ a Gerddi'r Dyffryn a'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac fe edrychwn ymlaen at ail-agor y tŷ yn 2013."

Disgrifiad o’r llun,

Fe fydd Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gofalu am y tŷ a'r gerddi

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol