A yw'r gyfrundrefn arholiadau yn addas i'r byd gwaith?
- Cyhoeddwyd
Ydy'r gyfundrefn gymwysterau bresennol yn addas i'n pobl ifanc ni ac yn eu paratoi ar gyfer y gweithle?
A oes 'na ormod o bwyslais ar arholiadau?
Yn eu gwersi iaith yn Ysgol Steiner Caerdydd mae'r disgyblion yn cyfuno'r Gymraeg gyda rhifyddeg.
Mae Ysgolion Steiner yn cynnig addysg sydd efallai'n cael ei hystyried yn llai traddodiadol am eu bod yn annog plant ifanc i ddysgu drwy chwarae a gweithgareddau creadigol.
Eu nodwedd yw'r diffyg pwyslais ar arholiadau a phrofion.
'Safon uchel'
Mae rhywfaint o'r Cwricwlwm Cenedlaethol yn cael ei ddysgu ochr yn ochr â Chwricwlwm Steiner.
Ond mae disgyblion yn sefyll arholiadau TGAU ac yn llwyddo cyn symud i addysg bellach ac uwch.
"Maen nhw'n gallu cyrraedd safon academaidd uchel ar y diwedd," meddai Clare Kimber, athrawes yn yr ysgol.
"Mae'r addysg yn cynnig sylfaen wych ar gyfer addysg brifysgol a chaiff y pynciau eu dysgu yn fanwl ac yn ddwfn yn yr ysgolion uwchradd.
"Ar y diwedd mae'r disgyblion yn gallu ymdopi gydag arholiadau, gyda phwysau."
Gyda disgyblion Cymru'n astudio dros 6,500 o gymwysterau ar hyn o bryd, nod Llywodraeth Cymru yw symleiddio'r system.
Fis Rhagfyr fe ddywedodd arweinwyr busnes bod angen cyflwyno newidiadau mawr i'r byd addysg.
Yn ôl cymdeithas y cyflogwyr, y CBI, mae gormod o bwyslais ar arholiadau gyda'r disgyblion yn methu datblygu'r sgiliau eang sydd eu hangen yn y gweithle.
'Yn barod i ddysgu'
"Yn anffodus, ry'n ni'n gweld mwy yn dod i'r byd gwaith wedi sefyll arholiadau ... ond dydi'r sgiliau gwaith a'r profiadau ddim ar gael," meddai Owain Davies o Gyngor CBI Cymru.
"Ry'n ni'n moyn denu'r unigolion sydd â'r gallu ganddyn nhw ac os nad yw ar gael, eu bod yn barod i ddysgu."
Ond er mwyn hybu mentergarwch mae angen mwy o gydweithio rhwng y byd addysg a busnes, yn ôl Anna Brychan, Cyfarwyddwr NAHT Cymru, undeb y prifathrawon.
"All y system addysg ddim datrys hyn ei hun," meddai.
"Mae'r CBI wedi cyhoeddi adroddiad ac wedi pennu nifer o sgiliau fyddai'n meithrin entrepreneuriaid y dyfodol.
"Mae angen trafodaeth fanwl i weld a oes modd helpu'n gilydd er mwyn sicrhau bod ein disgyblion yn gwneud y mwya' o'r cyfloedd."
'Blaenoriaethau'
Wedi helynt ailraddio papurau TGAU iaith Saesneg disgyblion Cymru dros yr haf mae'r llywodraeth ym Mae Caerdydd wedi cyhoeddi bod corff cymwysterau newydd yn cael ei sefydlu i reoleiddio a chysoni arholiadau.
Ond mae dylanwadau gwleidyddol yn gallu bod yn andwyol i'r byd addysg, yn ôl Anna Brychan.
"Y broblem sylfaenol yw bod gwleidyddiaeth mor ganolog i'n system fel bod blaenoriaethau yn newid o dymor un llywodraeth i un arall," meddai.
Nid chwarae plant felly ydi sefydlu fframwaith o gymwysterau sy'n sbarduno pobl ifanc ar un llaw a chreu cymwysterau ar y llaw arall sy'n eu paratoi nhw ar gyfer y gweithle.