Pryder am wasanaethau iechyd
- Cyhoeddwyd
![Ysbyty Llandudno](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/304/mcs/media/images/65169000/jpg/_65169661_41748262.jpg)
Yr ofnau yw y byddai gwasanaethau'n symud o Ysbyty Llandudno
Mae bwrdd iechyd wedi gwadu honiadau gwleidyddion fod penderfyniad wedi ei wneud i symud gwasanaethau llawdriniaeth y fron o Ysbyty Llandudno yn Sir Conwy.
Dywedodd Guto Bebb, AS Aberconwy, a'r AC lleol Janet Finch-Saunders, fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi dweud wrthyn nhw y bydd y gwasanaethau'n symud i Ysbyty Gwynedd ac Ysbyty Glan Clwyd.
Yn ôl y ddau, byddai datblygiad o'r fath yn groes i nod y bwrdd, datblygu Ysbyty Llandudno fel canolfan rhagoriaeth ar gyfer iechyd merched.
Dywedodd llefarydd ar ran y bwrdd iechyd nad oedd unrhyw benderfyniad terfynol.
Ychwanegodd eu bod yn ystyried materion staffio sy'n gysylltiedig â gwasanaethau llawdriniaeth y fron yn Llandudno.