Lladd moch daear yn anghyfreithlon?

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Adroddiad Iolo ap Dafydd

Mae arolwg o ffermwyr yng Nghymru yn awgrymu bod un o bob deg a holwyd wedi lladd mochyn daear yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Siaradodd ymchwilwyr ym mhrifysgolion Bangor, Kingston a Chaint gyda 428 o ffermwyr mewn sioeau amaethyddol yng Nghymru.

Fe wnaethon nhw ddefnyddio techneg sy'n galw ar y rhai sy'n cael eu holi i daflu dau ddeis cyn ateb - gyda'r canlyniad yn penderfynu a ddylen nhw ateb yn onest ai peidio.

Mae cynllun brechu wedi ei gyflwyno yn Sir Benfro oherwydd pryderon fod moch daear yn lledaenu'r diciâu mewn gwartheg.

Mae'n dilyn penderfyniad gan Lywodraeth Cymru i beidio bwrw 'mlaen gyda chynllun i ddifa'r anifeiliaid fel yr oedd rhai o fewn y diwydiant amaethyddol wedi ei ddymuno.

Sensitif

Dywedodd Dr Paul Cross o Brifysgol Bangor: "Dylai'r amcangyfrif o'r canran o ffermwyr sydd wedi lladd moch daear gael ei ystyried gan y rhai sy'n llunio polisi ac yn y ddadl ehangach.

"Nid yw astudiaethau i effaith difa moch daear ar y diciâu mewn gwartheg wedi ystyried achosion o ladd moch daear yn anghyfreithlon, a photensial hynny i ledaenu'r haint."

Mae'r ddadl ynghylch brechu neu ddifa wedi datgelu amheuon y byddai rhai yn y diwydiant amaeth yn lladd moch daear eu hunain er bod y mochyn daear yn rhywogaeth sydd wedi ei warchod.

Oherwydd natur sensitif y ddadl, penderfynodd ymchwilwyr ddefnyddio 'techneg ymateb ar hap' - rhywbeth sydd hefyd wedi ei ddefnyddio wrth drin a thrafod pynciau anodd megis erthylu.

Mae'r person sy'n cael ei holi yn taflu dau ddeis, ac yn dilyn rheolau pendant am sut i ateb y cwestiwn gan ddibynnu ar gyfanswm y rhifau ar y ddau ddeis.

Dyw'r ymchwilwyr byth yn cael gwybod beth yw'r rhif, felly does dim modd dweud a yw unrhyw unigolyn wedi cyflawni gweithred anghyfreithlon.

Amrywio

Roedd yr ymchwilwyr yn pwysleisio bod y dechneg yn golygu mai dim ond amcangyfrif yw'r canlyniadau, gan nad ydyn nhw'n gwybod pa ganran o'r ymatebwyr a lynodd at y rheolau ac ateb yn onest.

Mae hynny'n golygu y gall y canlyniadau amrywio o +5% a -5%.

Ond dywed awduron yr ymchwil fod y sampl a holwyd yn cynrychioli tua 2.8% o'r diwydiant amaeth yng Nghymru, ac mae hynny'n ganran uwch nag sy'n cael eu holi mewn arolwg barn cyn etholiad er enghraifft.

Wrth ymateb i'r adroddiad dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Does dim ateb cyflym i daclo'r haint yma.

"Mae angen dull cynaliadwy, tymor hir, a'r defnydd o ystod eang o fesurau gan gynnwys rheoli symudiadau anifeiliaid, bioddiogelwch a phrofi gwartheg.

"Y llynedd fe wnaethon ni frechu dros 1,400 o foch daear yn erbyn y diciâu, ac fe fyddwn yn ail-ddechrau brechu yn ddiweddarach eleni.

"Mae moch daear wedi eu gwarchod yn y DU, ac mae'r mater o'u lladd yn anghyfreithlon felly yn fater i'r heddlu."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol