Hunan-niweidio: galwadau gan blant pum mlwydd oed

  • Cyhoeddwyd
Plentyn ifanc
Disgrifiad o’r llun,

Mae bwlio'n aml yn ffactor mewn hunan-niweidio ac mae'n cael ei wneud yn waeth gan dechnoleg, fe honnir

Mae'r elusen llinell-gymorth ChildLine wedi derbyn galwadau am hunan-niweidio yn ymwneud â phlant mor ifanc â phum mlwydd oed, yn ôl ei rheolwr yng Nghymru.

Tra bod hunan-niweidio'n fwy cyffredin ymhlith merched yn eu harddegau hŷn, mae yna bryderon ei bod yn effeithio ar blant iau.

Mae ffigurau newydd a gomisiynwyd gan BBC Cymru yn awgrymu bod y nifer o ferched 10 i 14 mlwydd oed sydd yn dal i hunan-niweidio yn peri pryder.

Dywedodd llywodraeth Cymru ei bod yn buddsoddi miliynau mewn iechyd meddyliol a gwasanaethau cynghori ar gyfer pobl ifanc.

Cymhleth

Dywedodd Ann Pulling, rheolwr gwasanaethau ChildLine yng Nghymru, bod yna bwysau cynyddol ar bobl ifanc i edrych ac ymddwyn mewn ffordd arbennig.

"Mae'r rhan fwyaf o'r rhai sydd yn ein galw rhwng 13 a 17 ond rydym wedi cael rhai mor ifanc â phump - gall brodyr a chwiorydd neu rieni gysylltu â ni," meddai.

Mae rhesymau dros hunan-niweidio'n gymhleth a phersonol, a gellir ei gysylltu â bwlio, cam-drin, neu broblemau yn y cartref neu yn yr ysgol.

Mae ymchwil diweddar o King's College yn Llundain yn awgrymu bod plant sydd yn cael eu bwlio yn ystod eu blynyddoedd cynnar yn hyd at dair gwaith yn fwy tebygol o hunan-niweidio na'u cyd-ddisgyblion pan fyddant yn cyrraedd y glasoed.

Dywedodd Ms Pulling bod bwlio yn cael ei wneud yn waeth gan dechnoleg.

"Dydy bwlio ddim yn stopio nawr. Gyda chyfryngau cymdeithasol nid yw'n gorffen wrth giât yr ysgol bellach," meddai.

Cynnydd

Mae ffigurau newydd a gomisiynwyd gan BBC Cymru ac a gynhyrchwyd gan Arsyllfa Iechyd Cyhoeddus Cymru yn taflu rhywfaint o oleuni ar ben mwyaf difrifol y broblem.

Mae'r ffigurau, sydd yn edrych ar gyfnodau o dair blynedd, yn awgrymu bod y cynnydd canrannol mwyaf mewn hunan-niweidio sydd yn arwain at driniaeth yn yr ysbyty o 1999-2001 ymysg merched iau, 10 i 14 oed.

Yn y cyfnod yna bu tua 100 o dderbyniadau i'r ysbyty am bob 100,000 o blant, ond erbyn 2009-11 roedd y nifer wedi cynyddu i 200.

Cyhoeddodd ChildLine ffigurau ym mis Rhagfyr y llynedd oedd yn dangos bod y nifer o blant gafodd eu cynghori yng Nghymru ac oedd yn hunan-niweidio wedi codi o 809 yn 2010-11 i 1,214 y flwyddyn ganlynol.

Dywedodd Ms Pulling bod y cynnydd mewn galwadau yn ôl pob tebyg oherwydd mwy o ymwybyddiaeth o'r gwasanaeth na chynnydd mewn plant yn hunan-niweidio.

Mwy o gymorth

Dywedodd Dr Ann John, arbenigwraig ar hunan-niweidio ac atal hunanladdiad gyda Iechyd Cyhoeddus Cymru, yr oedd yn tueddu i fod yn broblem ymysg merched ifanc, ond ychwanegodd bod astudiaeth tymor hir yn Awstralia yn cynnig gobaith.

"Dangosodd fod yna uchafbwynt ymysg merched yng nghanol a diwedd eu harddegau ar yr adeg pan fo yna lawer o gythrwfl mynd ymlaen yn eu bywydau - materion teuluol, materion yn yr ysgol, "meddai.

"Wrth i'r plant yma dyfu'n oedolion, bydd tua 90% ohonynt ddim yn parhau i hunan-niweidio."

O safbwynt Cymru, dywedodd bod yna fwy o gymorth nawr ar gael i blant, a'i bod yn sicr bod mwy ohonynt yn cymryd mantais o hynny.

"Mae yna bethau y gallwn ei wneud ar gyfer yr unigolyn ond mae yna hefyd lawer o bethau yn y gymuned," meddai.

"Mae pethau fel rhaglenni magu plant a chymorth cyntaf iechyd meddwl yn helpu pobl i siarad am y materion hyn."

'Datblygu gwasanaeth cynghori'

Dywedodd llywodraeth Cymru ei bod yn benderfynol o sicrhau byddai "plant a phobl ifanc gydag anghenion emosiynol ac iechyd meddyliol yn derbyn y gofal a chymorth gorau posibl".

"Ers 2008, rydym wedi buddsoddi £6.9m ychwanegol yng ngwasanaethau iechyd meddwl ar gyfer plant a phobl ifanc ac wedi clustnodi £8m er mwyn datblygu gwasanaeth cynghori mewn ysgolion.

"Yn ogystal, bydd £4.5m yn cael ei ddarparu bob blwyddyn o 2012-2013 ymlaen ar gyfer gwasanaethau cynghori ar gyfer disgyblion o oedran ysgol uwchradd, disgyblion blwyddyn chwech yr ysgol gynradd a phobl ifanc 16-18 oed.

"Os oes gan rieni neu ofalwyr bryderon am hunan-niwedio ymysg plant ifanc, dylent gysylltu â'u meddyg teulu ar frys."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol