Ceisio atal yr ifanc rhag aildroseddu
- Cyhoeddwyd
Mae Gweinidog Cyfiawnder Llywodraeth y DU, Chris Grayling, yn ystyried sefydlu colegau diogel i wella'r cyfleoedd addysg a hyfforddiant i droseddwyr ifanc.
Mae ymgynghoriad yn dechrau ddydd Iau sy'n edrych ar wahanol ffyrdd o fynd i'r afael â nifer y bobl ifanc sy'n aildroseddu yng Nghymru a Lloegr.
Mae'r mwyafrif o bobl ifanc rhwng 15 ac 17 oed sydd yn y ddalfa wedi cael eu diarddel o ysgolion, ac mae eu hanner â sgiliau llythrennedd plant saith i 11 oed.
Pob blwyddyn mae tua £245 miliwn yn cael ei wario ar gadw tua 1,800 o bobl ifanc dan glo.
Wrth lansio'r ymgynghoriad diweddara', dywedodd Mr Grayling: "Rydym yn gwario gormod o arian ar ganlyniadau gwael iawn."
Yn ôl ffigurau diweddar, mae 73% o bobl ifanc sy'n gadael y ddalfa yn aildroseddu o fewn blwyddyn, o'i gymharu â 47% o oedolion sydd yn yr un sefyllfa.
Costau
Wrth geisio ad-drefnu'r system, mae Llywodraeth y DU eisiau i ysgolion rhydd fod yn rhan o'r ymdrech i addysgu troseddwyr ifanc.
Dywed gweinidogion fod y gost o gadw pobl ifanc dan glo lawer yn uwch na'r gost o'u hanfon i ysgolion preifat, ond fod y rhan fwya' yn gadael y ddalfa heb sgiliau ar gyfer bywyd yn gyffredinol.
Yn y 12 mis hyd at fis Mehefin 2012, roedd 3,645 o droseddwyr ifanc wedi bod dan glo.
Cafodd sefydliadau i droseddwyr ifanc gytundeb i ddarparu 15 awr o addysg pob wythnos, ond doedd y targed hwn ddim yn cael ei wireddu'n aml, meddai Mr Grayling.
Ychwanegodd: "Rydym yn gwario £245 miliwn pob blwyddyn ar gadw 1,600 o bobl ifanc dan glo ac mae 70% ohonynt yn aildroseddu felly dydyn ni ddim wedi cael pethau'n iawn eto.
"Yr hyn ydw i'n ddweud ydy y dylai'r sefydliadau sydd â sgiliau i gynnig addysg i bobl ifanc sydd â phroblemau ac o gefndiroedd anodd - pobl sydd â phrofiad o sefydlu ysgolion o'r fath - allu dod â sgil ychwanegol i'r dasg hon sy'n golygu ein bod yn gallu cael gwell gwerth am arian a chanlyniadau gwell a dyna bwrpas yr ymgynghoriad hwn," meddai.
Mae arbenigwyr o'r sector addysg a'r gwasanaeth carchardai yn rhan o'r ymgynghoriad ar y cynlluniau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Chwefror 2013