Rhyddhau tri dyn ar fechniaeth mewn cysylltiad â'r ymchwiliad cig ceffyl

  • Cyhoeddwyd

Mae dau ddyn a gafodd eu harestio yn ardal Aberystwyth mewn cysylltiad â'r ymchwiliad cig ceffyl wedi eu rhyddhau ar fechnïaeth.

Cafodd y dynion, un yn 64 oed a'r llall yn 42 oed, eu harestio ar safle Farmbox Meats yn Llandre ddydd Iau, ar amheuaeth o dwyllo.

Mae dyn 63 oed a gafodd ei arestio mewn lladd-dy yn Todmorden, Sir Gorllewin Efrog hefyd wedi ei ryddhau ar fechnïaeth.

Dywedodd Heddlu Dyfed Powys y bydd ymholiadau yn parhau.

Dywedodd yr heddlu hefyd eu bod wedi bod ar safle Farmbox Meats drwy'r dydd ddydd Gwener wrth i'r ymchwiliad barhau.

Cafodd y safle yma a'r lladd-dy eu harchwilio a'u cau lawr dros dro ddydd Mawrth, wedi i'r Asiantaeth Safonau Bwyd ddweud eu bod wedi mynd â chig a gwaith papur oddi ar y ddau safle i'w harchwilio.

Ymateb Sainsbury's

Eisoes mae'r ddau gwmni wedi gwadu eu bod wedi gwneud unrhyw beth o'i le.

Yn y cyfamser, mae pennaeth cwmni Sainsbury's, Justin King, wedi dweud na fydd archfarchnadoedd yn gwybod am gryn amser faint o gig ceffyl sydd yn eu cynnyrch nhw.

Gwrthododd feirnidiaeth Downing Strret bod yr archfarchnadoedd wedi bod yn araf yn ymateb i'r datblygiadau.

"Dwi'n meddwl bod 'na arwyddion calonogol o'r profion heddiw," meddai wrth raglen Newsnight y BBC nos Wener.

"Mae ganddo ni raglen brofi enfawr ac mae 'na tua 50 o bobl, dyna ydi eu gwaith llawn amser, i brofi cynnyrch."

Fe ddaw ei sylwadau ar ôl i ganlyniadau cychwynnol ar gynnyrch ddatgelu bod cig ceffyl mewn 1% o samplau.

Ar ôl 2,501 o brofion ar gynnyrch dywedodd yr Asiantaeth nad oes 'na ddim cynnyrch newydd wedi dangos bod 'na dros 1% o gig ceffyl ynddyn nhw.

Mae Prif Weithredwr yr Asiantaeth, Catherine Brown, yn parhau "yn hyderus" mai profion ydi'r ffordd gywir ymlaen.

"Cyfrifoldeb y diwydiant ydi i gael hyn yn gywir, nid y llywodraeth, ac rydyn yn ystyried rhaglen brofi cynhwysfawr ym mhob rhan o'r gadwyn fwyd fel ffordd allweddol i ateb y sefyllfa.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol