Gwerthiant papurau newydd Cymru yn parhau i ostwng
- Cyhoeddwyd
Mae gwerthiant papurau newydd yng Nghymru yn parhau i ostwng, yn ôl y ffigyrau diweddara.
Yn ôl ABC, y sefydliad sy'n cofnodi gwerthiant, fe wnaeth bob un o bapurau dyddiol Cymru weld eu gwerthiant yn gostwng yn ail hanner 2012.
Y South Wales Evening Post yn y de orllewin sy'n parhau â'r gwerthiant uchaf, sef cyfartaledd o 34,873.
Ond roedd hynny yn ostyngiad o 9.1% o'i gymharu â Gorffennaf-Rhagfyr 2011.
Fe welodd y rhan fwyaf o bapurau wythnosol yng Nghymru hefyd ostyngiad yn nifer y darllenwyr
Ar y llaw arall bu cynnydd yn nifer y bobl fu'n darllen gwefannau'r papurau newydd.
Bu cynnydd yn nifer defnyddwyr gwefannau'r Daily Post, yr Evening Post a'r Western Mail.
Bu cynnydd o 53.% yn nefnyddwyr thisissouthwales (Evening Post), o'i gymharu â'r llynedd.
Mae 18,640 ar gyfartaledd yn ymweld â'r we yn ddyddiol a 380,128 yn fisol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Chwefror 2013