Codiad cyflog 'yn anghyfreithlon'

  • Cyhoeddwyd
Anthony O'Sullivan
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd codiad cyflog y prif weithredwr ei leihau

Mae corff sy'n cadw llygad ar wariant cyhoeddus wedi dweud bod y broses arweiniodd at roi codiad cyflog o £27,000 i brif weithredwr yn "anghyfreithlon am sawl rheswm."

Daeth i'r amlwg na hysbysebodd Cyngor Caerffili gyfarfod oedd yn penderfynu cyflog Anthony O'Sullivan ac uwchswyddogion eraill.

Mae adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru wedi dweud bod cofnodion y cyfarfod yn fyr iawn ac nad oedd "cofnod digonol o'r drafodaeth."

Gofynnwyd i Heddlu Avon a Gwlad yr Haf ymchwilio yn sgil adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru.

Yn ôl Cyngor Caerffili, "camgymeriad dynol" arweiniodd at y camgymeriadau a dywedon nhw eu bod yn ystyried casgliadau'r adroddiad.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'n hollol briodol fod y Swyddfa Archwilio'n ymchwilio i hyn er lles y cyhoedd.

"Rydym yn disgwyl i bob corff cyhoeddus gyfiawnhau penderfyniadau i godi cyflogau uwchswyddogion ... a dylai'r cyhoedd wybod fod penderfyniadau o'r fath yn dryloyw, bod modd craffu arnyn nhw.

"Os yw penderfyniad tu ôl i ddrysau caeëdig, mae hyn yn groes i'r egwyddorion."

Byddai'r Gweinidog Llywodraeth Leol yn asesu camau'r cyngor, meddai.

Dywedodd y cyngor eu bod yn adolygu argymhellion adroddiad y Swyddfa Archwilio.

Cynyddwyd gradd gyflog Mr O'Sullivan o £131,000 i £158,000 ar y cychwyn - gan bwyllgor arbennig ym mis Medi 2012 sefydlwyd i bennu cyflog uwchswyddogion.

O fudd

Cymeradwyodd y pwyllgor argymhellion a gafodd eu cynnwys mewn adroddiad ysgrifennwyd gan y prif weithredwr ei hun, er bod y penderfyniad o fudd iddo.

Dywedodd y Swyddfa Archwilio fod eu hadroddiad yn tynnu sylw at y risg y byddai'r awdurdod lleol yn colli swyddogion "o ganlyniad i drefniadau cyflog anghystadleuol".

Roedd Mr O'Sullivan ac uwchswyddogion eraill yn bresennol pan oedd y pwyllgor yn cyfarfod ac ni wnaed unrhyw ddatganiadau ac ni adawodd y swyddogion hyn yr ystafell tra gwnaed y penderfyniad.

Dywedodd yr Archwilydd Cyffredinol Cynorthwyol, Anthony Barrett: "Rwyf wedi dod i'r casgliad bod y penderfyniad a wnaed gan y pwyllgor cyflog uwch ar Fedi 5, 2012, i gymeradwyo'r strwythur cyflog a nodwyd yn adroddiad y prif weithredwr, yn anghyfreithlon am sawl rheswm."

Nodwyd y cynnydd cyflog gan y cyngor llawn ym mis Hydref ond nid oedd gwybodaeth am newidiadau i raddfeydd cyflog ar gael i gynghorwyr.

Arweiniodd hyn at brotestiadau staff ac undebau llafur ac ymddiheuriad oddi wrth gynghorwyr Llafur yr awdurdod.

£5m

Mae Cyngor Caerffili yn bwriadu gwneud toriadau o fwy na £5 miliwn y flwyddyn hon.

Mewn cyfarfod arbennig yn Ionawr fe benderfynodd y cyngor leihau codiad cyflog Mr O'Sullivan o £27,000 i ychydig dros £5,000.

O ganlyniad mae'r Swyddfa Archwilio wedi penderfynu peidio â gwneud cais i'r llys am ddatganiad.

Fodd bynnag, dywedodd fod nifer o wersi gan y cyngor i'w dysgu, gan gynnwys argymell adolygiad o'r weithdrefn ar gyfer hysbysebu cyfarfodydd.

Mae'r cyngor wedi dweud mai'r rheswm am beidio â hysbysebu'r cyfarfod oedd camgymeriad dynol.

Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor: "Rydyn ni'n adolygu argymhellion yr adroddiad ar hyn o bryd.

"Byddwn yn ystyried adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru mewn cyfarfod o'r cyngor llawn. Felly fe fyddai'n amhriodol gwneud datganiad pellach ar hyn o bryd."

'Damniol'

Dywedodd Colin Mann, arweinydd grŵp Plaid Cymru ar Gyngor Caerffili: "Mae adroddiad damniol yr archwilydd yn gwneud swydd y prif weithredwr yn anghynaladwy."

Dywedodd llefarydd llywodraeth leol y Ceidwadwyr Janet Finch-Saunders: "Mae yna wersi pwysig i'w dysgu a ddylai gael eu rhannu gyda'r holl awdurdodau lleol i sicrhau na fydd sgandal o'r fath yn digwydd eto."

Dywedodd Aelod Cynulliad y Democratiaid Rhyddfrydol Peter Black nad oedd yno "unrhyw gyfiawnhad" am y codiad cyflog.

Mewn adroddiad a gyhoeddir ddydd Mercher mae'r Swyddfa Archwilio'n gwneud argymhellion ynghylch cadw cofnodion manwl o gyfarfodydd a sut i wella canllawiau datgan buddiannau mewn cyfarfodydd.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol