Gweinidog addysg 'yn amddiffyn rôl comisiynydd'
- Cyhoeddwyd
Mae'r Gweinidog Addysg Leighton Andrews wedi amddiffyn rôl ac annibyniaeth Comisiynydd y Gymraeg yn sgil ei benderfyniad i wrthod argymhellion safonau iaith yn Chwefror.
Esboniodd ei benderfyniad yn ystod dadl yn Siambr y Senedd ym Mae Caerdydd brynhawn Mawrth.
Dywedodd fod ganddo nifer o bryderon am y safonau gan fod ystyr rhai yn aneglur, yn mynd tu hwnt i gwmpas y mesur ac â'r potensial i gamarwain y cyhoedd.
Pwysleisiodd mai nid ar chwarae bach y gwnaeth y penderfyniad.
"Nid yw fy mhenderfyniad yn tanseilio rôl y comisiynydd," meddai. "Yn wir, mae'n cadarnhau annibyniaeth y comisiynydd ar y llywodraeth.
Amserlen
"Mae hi'n parhau yn bencampwraig dros yr iaith, yn annibynnol ar y llywodraeth, yn enwedig yn nhermau ei rôl reoleiddio."
Dywedodd y byddai'n cyhoeddi amserlen ar gyfer safonau iaith newydd gyda'r nod o gael y rhai cyntaf yn eu lle erbyn diwedd 2014.
Dywedodd AC Plaid Cymru Simon Thomas AC ei bod yn amlwg bod cyfathrebu rhwng y llywodraeth a swyddfa'r comisiynydd wedi bod yn "wael" ac yn "wan".
"Nid oedd yn ddigon clir pwy oedd yn gwneud beth," meddai.
"Rwy'n derbyn bod y comisiynydd yn annibynnol a does dim rhaid i'r comisiynydd wrando ar y llywodraeth.
'Yn ddoeth'
"Ond ... os yw rhywun yn dweud wrthych chi fwy nag unwaith mai fel hyn y byddan nhw'n dymuno gweld rhywbeth yn cael ei wneud - er mwyn hwyluso'r broses ddeddfwriaeth sy'n dilyn - byddai'n ddoeth talu sylw i hynny."
Cwestiynodd y Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol pam bod y broses gyflwyno safonau yn cymeryd cymaint o amser.
Holodd Suzy Davies o'r Ceidwadwyr ba waith paratoi yr oedd y gweinidog a'i adran wedi ei wneud ers pasio'r Mesur Iaith yn 2011.
Pwysleisiodd y gweinidog wrth orffen ei fod yn disgwyl i'w swyddogion a swyddogion y comisiynydd gydweithio yn y dyfodol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd25 Chwefror 2013