Cymeradwyo fferm wynt ddadleuol yn Sir Gaerfyrddin
- Cyhoeddwyd
Mae cynlluniau ar gyfer fferm wynt ddadleuol yn Sir Gaerfyrddin wedi cael sêl bendith gan Lywodraeth y DU.
Cafodd y safle yng Nghoedwig Brechfa, fydd â 28 o dyrbinau, ei gymeradwyo gan y Gweinidog Ynni a Newid Hinsawdd, Greg Barker.
Bydd pob un o'r tyrbinau yn 145 metr o uchder.
Mae'r datblygwyr, RWE Npower, yn disgwyl i'r datblygiad greu digon o ynni ar gyfer bron i 40,000 o gartrefi ac y bydd 150 o swyddi yn cael eu creu yn ystod y broses adeiladu.
Maent hefyd yn dweud y gallai'r prosiect gyfrannu hyd at £19 miliwn i economïau de a gorllewin Cymru yn ystod y gwaith adeiladu, a thua £560,000 y flwyddyn i gymunedau lleol wedi hynny.
Llywodraeth y DU sy'n penderfynu ar brosiectau ynni mawr, dros 50 megawat, yn hytrach na Llywodraeth Cymru.
Gwrthwynebiad
Roedd trigolion, sefydliadau lleol a busnesau wedi gwrthwynebu'r cynlluniau a gyflwynwyd gan RWE Npower.
Yn ôl rhai, byddai'r datblygiad yn cael effaith andwyol ar fywydau pobl leol, yn ogystal ag ecoleg a thwristiaeth yr ardal.
Dywedodd Bethan Edwards o gwmni RWE Npower: "Bydd adeiladu Fferm Wynt Gorllewin Coedwig Brechfa yn rhoi hwb gwerthfawr i'r economi leol, yn cyfrannu £19 miliwn i economïau de a gorllewin Cymru, ac yn cynnal hyd at 224 o swyddi yn y rhanbarth yn ystod y blynyddoedd adeiladu'n unig.
"Fe fydd y manteision economaidd pwysig hyn yn parhau tra bod y fferm wynt yn weithredol, gyda gwariant o fewn economi'r de a'r gorllewin, creu swyddi a buddsoddiad lleol trwy raglen gyllid arbennig fyddwn ni'n ei datblygu gyda phobl leol.
"Bydd y gymuned leol yn elwa o ryw £560,000 y flwyddyn dros fywyd y fferm wynt, yn ddibynnol ar gapasiti terfynol y safle."
'Rôl bwysig'
Dywedodd prif weithredwr yr Arolygiaeth Gynllunio, Syr Michael Pitt: "Mae'r Gweinidog Ynni wedi cefnogi argymhelliad yr Arolygiaeth Gynllunio trwy roi sêl bendith ar gyfer fferm wynt Coedwig Brechfa.
"Rôl yr Arolygiaeth yw edrych ar geisiadau ar gyfer prosiectau isadeiledd sydd ag arwyddocâd cenedlaethol, ac i argymell a ddylid rhoi caniatâd ai peidio."
Dywedodd llefarydd ar ran Adran Ynni a Newid Hinsawdd San Steffan: "Mae gan ffermydd gwynt ar y tir rôl bwysig fel rhan o strategaeth ynni cytbwys.
"Bydd y datblygiad hwn yn rhoi mwy o sicrwydd o ran ynni yn y dyfodol, yn helpu i leihau allyriadau carbon ac yn creu hyd at 150 o swyddi adeiladu."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd30 Ionawr 2013