Gwefannau papurau newydd yn fwy poblogaidd na'r copïau caled

  • Cyhoeddwyd
Y Western Mail a'r Daily Post
Disgrifiad o’r llun,

Mae gwerthiant papurau newydd Cymru wedi gostwng

Mae Trinity Mirror, sy'n gyfrifol am bapurau newydd fel y Western Mail a'r Daily Post, wedi cyhoeddi bron £90 miliwn o elw cyn treth y llynedd.

Mae'r cyhoeddiad wedi i ystadegau ddangos bod mwy yn dewis darllen straeon newyddion ar y we ac am ddim yn lle prynu papurau.

Dyma arwydd bod y galw am newyddion yn newid ac mae'n gosod her i'r papurau traddodiadol.

Yn y dechrau roedd y we yn swnllyd ac yn araf ond erbyn hyn, i'r rhan fwyaf ohonom, mae'n brofiad cyflym.

Yn swyddfa'r Evening Post yn Abertawe mae cysylltiad cyflym yn hanfodol i'r newyddiadurwyr.

Mae gan yr Evening Post y cylchrediad mwyaf yng Nghymru - ychydig llai na 35,000 o gopïau sy'n cael eu gwerthu bob dydd, yn ôl y ffigyrau diweddara.

Cynnig mwy

Mae hyn yn uwch na'r Western Mail - sy'n gwerthu 23,000 o gopïau a hefyd yn uwch na'r Daily Post, sydd â chylchrediad o 29,500 o gopïau.

Ond mae'r nifer sy'n prynu papurau wedi bod yn disgyn ers blynyddoedd.

"Os ydych chi'n edrych ar beth sy' gan bapurau newydd i gynnig a beth sy' gan wefannau i gynnig, wel, ma' lluniau, ffilm, y diweddara, i gyd am ddim, ar y ffôn, ar y tabled, ...," meddai Cathryn Ings, cyn-olygydd y Carmarthen Journal.

"Os ydych chi'n edrych am beth sy yn y papur - rhaid talu ac mae'r stori yn hen, wedi cwpla."

Mae'r Evening Post yn cyhoeddi straeon ar y safle "thisissouthwales" ble oedd cynnydd o 65% yn nifer yr ymwelwyr bob mis, ar gyfartaledd, yn ail hanner 2012 o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.

Ac mae hyn yn cyfateb i dros 380,000 o bobl yn ymweld â'r safle o fis i fis.

Roedd 'na gynnydd hefyd i'r Western Mail a'r Daily Post yn y nifer sy'n ymweld â'u gwefannau nhw.

Gwneud elw

Mae dros 1.4 miliwn yn mynd i wefan Wales Online ar gyfartaledd bob mis ble mae straeon y Western Mail, y South Wales Echo a phapurau'r cymoedd yn cael eu cyhoeddi ar-lein.

Cynnydd yw hwn o bron 30%.

Ar wefan y Daily Post ychydig llai na 378,000 o ymwelwyr sy'n mynd i'r wefan bob mis, cynnydd o 28%.

Er bod y twf yn narllenwyr ar-lein yn fawr, mae'r papurau newydd dal i ymladd i wneud elw o'r fenter.

Mae Trinity Mirror yn ymgynghori ar doriadau i swyddi a dyw'r hysbysebion oedd yn cynnal y copïau caled ddim eto'n cael yr un effaith ar-lein.

Dywedodd Marc Webber, cyn-is olygydd ar y Sun Online: "Mae 'na fwlch enfawr ar hyn o bryd rhwng yr arian sy'n dod o bapurau ac arian sy'n dod o'r we.

"Ond ar ddiwedd y dydd mae pobl yng Nghymru yn dewis defnyddio gwefannau fel Facebook a Walesonline ac ma' rhywun yn gallu gwneud elw o hyn os ydych chi'n cael y bobl iawn i werthu hysbysebion."

Mae'r papurau yn mynnu eu bod nhw'n targedu ffyrdd newydd o ddenu hysbysebion i'w gwefannau.

Yn ôl golygydd newydd yr Evening Post, Jonathan Roberts, mae'r cwmni yn canolbwyntio ar ddarparu gwasanaeth cynhwysfawr ar eu gwefan - a hyn, meddai, sydd tu ôl i fwy o ymwelwyr yn ddiweddar.

'Mwy o adnoddau'

Yn ôl Cathryn Ings, mae angen mwy o fuddsoddiad. "Ar hyn o bryd son nhw wedi ffindo shwt i wneud elw mas o'r gwefannau.

"Rhaid i bethau newid ... mae angen mwy o adnoddau, mae'r rhai sy'n gwneud y papurau yn gorfod gwneud y wefan hefyd."

Prin yw'r galw am gymorth ariannol o'r llywodraeth neu unrhyw ffynhonnell gyhoeddus arall i gefnogi'r diwydiant papurau yng Nghymru.

Ond wrth i'r newyddiadurwyr ddathlu llwyddiannau eu gwefannau, mae problemau ariannol y diwydiant yn dal i fygwth dyfodol rhai o'r papurau enwocaf.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol