Ysgolion a ffyrdd ynghau oherwydd eira
- Cyhoeddwyd
Mae eira wedi disgyn dros nos mewn rhannau o Gymru, gyda'r gogledd ddwyrain yn gweld y gwaetha', yn enwedig Sir y Fflint.
Mae Heddlu Gogledd Cymru'n dweud ei bod yn wael iawn yno.
Dyw rhai peiriannau graeanu ddim yn gallu cyrraedd nifer o leoedd gan fod coed wedi syrthio ar y ffyrdd.
Mae'r sefyllfa hefyd yn wael yng nghanolbarth Cymru.
Mae tua 200 o ysgolion ynghau oherwydd yr eira - pob un o rai Sir y Fflint, yn ogystal â nifer yn Wrecsam a Phowys. Gallwch weld y manylion yma.
Cyhoeddodd Coleg Glannau Dyfrdwy a Phrifysgol Glyndŵr hefyd bod eu holl safleoedd nhw wedi cau ddydd Gwener.
Penderfynodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ganslo apwyntiadau i gleifion allanol yn Ysbyty Maelor Wrecsam gan fod amodau gyrru yn parhau yn eithriadol o anodd yn yr ardal.
Teithio
Mae'r tywydd garw yn achosi trafferthion i deithwyr ar draws y wlad, gyda nifer o ffyrdd ynghau.
Mae'r A470 wedi ei chau i'r ddau gyfeiriad rhwng Mallwyd a Glantwymyn.
Yn Sir Ddinbych, mae'r A5 ynghau i'r ddau gyfeiriad rhwng Corwen a Llangollen.
Mae Bwlch Nant-y-Garth hefyd ynghau i'r ddau gyfeiriad rhwng Llandegla a Lon Speiriol-Isaf yn Rhuthun, yn ogystal â Bwlch yr Oernant rhwng Llandegla a Llangollen.
Bu'n rhaid cau'r A548 yn Oakenholt ger Y Fflint wedi i geblau trydan ddisgyn.
Yn y gogledd orllewin, mae'r A55 wedi cau i gyfeiriad y gorllewin rhwng Abergwyngregyn a Thalybont, wedi i lori gael ei chwythu i'r llain ganol
Yn ne Cymru, mae Bwlch Rhigos wedi cau i'r ddau gyfeiriad rhwng Hirwaun a Stryd Dunraven, Treherbert.
Dywedodd cwmni trenau Virgin nad oedd gwasanaethau rhwng Fflint a Chaer wedi i geblau trydan ddisgyn ar y lein oherwydd y gwynt.
Cyhoeddodd cwmni bysiau GHA nad oedd unrhyw un o'u gwasanaethau yn weithredol yn ardaloedd Wrecsam a Sir Ddinbych.
Mae 'na oedi hefyd ar gychod Stena Line rhwng Caergybi a Dulyn.
Does dim trafferthion hyd yma gyda theithiau o Faes Awyr Caerdydd.
Achub
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn annog pawb heblaw y dringwyr mwyaf profiadol i gadw oddi ar y mynyddoedd uchaf dros y Pasg oherwydd y tywydd drwg.
Daeth y rhybudd wrth i Dîm Achub Mynydd Llanberis gyhoeddi lluniau o gyrch ar Yr Wyddfa ddydd Iau, pan fu'n rhaid achub dynes 41 oed a'i mab 17 oed oddi ar y mynydd.
Hefyd bu'n rhaid achub pedwar llanc yn eu harddegau a'u hyfforddwr wedi iddyn nhw fynd yn sownd yn eu bws mini ar ffordd fynyddig nos Iau.
Aeth Tîm Achub Mynydd Longtown o'r Fenni i gynorthwyo'r pump ar ffordd Bwlch yr Efengyl rhwng y Fenni a'r Gelli Gandryll.
Cafodd y llanciau o Bont-y-pŵl eu cludo yn ôl i Ganolfan Awyr Agored Cusop lle'r oedden nhw'n aros.
Yn ôl Rhian Haf, o adran dywydd BBC Cymru, dyw hi ddim yn anarferol i gael eira ym mis Mawrth.
"Da ni'n llawer mwy tebyg o gael eira adeg y Pasg nag ydan ni adeg y Dolig, gan fod y gwynt yn fwy tebyg o chwythu o'r dwyrain, yn dod ag aer oer iawn o gyfeiriad Scandinafia a Rwsia," meddai.
Rhybudd oren
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd oren ar gyfer y gogledd eto ddydd Gwener, ac yn dweud y gallai rhwng 10 a 15 cm ddisgyn yn y gogledd ddwyrain.
Mae disgwyl hyd at 40 cm o eira ar dir uchel yn Eryri, yn ogystal â rhywfaint o eira ym mannau o Wynedd a Chonwy.
Bydd mwy o law yn disgyn yn ne Cymru ddydd Gwener, gyda disgwyl hyd at 60 milimetr o law ar ben y glaw sydd eisoes wedi disgyn, gan achosi perygl o lifogydd mewn mannau.
Bydd yr eira a'r glaw yn clirio'n raddol erbyn dydd Sul, ond fe fydd hi'n parhau yn oer iawn.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Mawrth 2013
- Cyhoeddwyd22 Mawrth 2013