Rhai'n dal heb drydan wedi eira trwm
- Cyhoeddwyd
Mae tua 500 o gartrefi yn y gogledd-ddwyrain yn dal heb drydan oherwydd y tywydd, er bod yr eira'n dechrau clirio wedi dyddiau o aflonyddwch.
Pan oedd y sefyllfa ar ei waethaf ddydd Sadwrn, roedd tua 6,000 o gartrefi heb gyflenwad, yn Llangollen a Dyffryn Dyfrdwy gan fwyaf.
Dywedodd cwmni Scottish Power bod eu peirianwyr yn cael trafferth cyrraedd y mannau pwysig oherwydd bod coed wedi disgyn ar draws ffyrdd yn yr ardal.
Mae mwy o eira wedi bod yn disgyn yn Wrecsam, ond dywedodd heddlu Dyfed Powys bod ffyrdd canolbarth a gorllewin Cymru i gyd ar agor er yn cynghori gyrwyr i deithio'n ofalus.
Dywedodd y Swyddfa Dywydd eu bod yn disgwyl tywydd mwy sych ddydd Sul er bod y tymheredd yn parhau yn oer iawn a'r gwyntoedd yn gryf.
Yr un rhybudd sy'n parhau yw'r un am rew allai achosi trafferthion ddydd Sul, ond fe fydd yn tymheredd yn dychwelyd i lefel normal wrth i'r wythnos fynd yn ei blaen.
Mae Cyngor Sir y Fflint wedi annog pobl i fod yn gymdogion da ac ymweld â chymdogion oedrannus neu fregus yn ystod y cyfnod o dywydd gwael.
Mae staff gofal cymdeithasol y sir yn ceisio parhau gyda'u gwasanaethau gan sicrhau bod ymweliadau brys yn digwydd, ond dywedodd yr awdurdod y byddai eu canolfannau dydd ar gau ddydd Llun.
Yng Ngwynedd, fe fu cwpwl yn sownd yn eu car am 18 awr mewn lluwchfeydd ger y Bala cyn i achubwyr eu harwain oddi yno am 8:00am fore Sadwrn.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Mawrth 2013
- Cyhoeddwyd22 Mawrth 2013
- Cyhoeddwyd22 Mawrth 2013
- Cyhoeddwyd22 Mawrth 2013
- Cyhoeddwyd22 Mawrth 2013