Achosion o'r frech goch mewn sir arall

  • Cyhoeddwyd

Mae swyddogion iechyd wedi dweud bod achosion o'r frech goch wedi eu cadarnhau ymhlith plant ym Mhowys.

Yn ystod mis Mawrth roedd mwy na 40 o achosion a bron 20 yn ystod yr wythnos ddiwethaf.

Mae'r rhan fwyaf o'r achosion ymhlith plant ysgol yng ngogledd y sir.

Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Addysgu Powys: "Mae'r clefyd yn gallu lladd neu adael cleifion gyda chymhlethdodau parhaol, gan gynnwys niwed i'r ymennydd, a'r unig ffordd i'w atal yw dau ddos o'r brechiad MMR.

'25%'

"Ym Mhowys dyw 25% o bobl ifanc yn eu harddegau ddim wedi cael dau ddos.

"Mae un dos yn golygu 90% o amddiffyniad a dau'n golygu 99% o amddiffyniad."

Bydd llawer o bobl sy'n dal y frech goch yn cael tymheredd uchel, peswch, llygaid coch yn dyfrio a theimlo'n sâl yn gyffredinol i ddechrau.

Mae'r frech ei hun yn ymddangos o fewn ychydig ddyddiau ar eu hwynebau ac yn lledu dros weddill y corff dros gyfnod o ddyddiau.

Dywedodd y llefarydd: "Os ydych yn amau bod rhywun yn diodde', ffoniwch y meddyg teulu ... peidiwch â mynd i'r uned ddamweiniau onibai eich bod yn ddifrifol sâl a rhowch wybod iddyn nhw o flaen llaw.

"Os ydych angen brechiad, ffoniwch y meddyg teulu."

Mae modd cael mwy o wybodaeth am y clefyd wrth ffonio Galw Iechyd Cymru ar 0845 46 47.