Grant o £10,000 i Radio Beca

  • Cyhoeddwyd
Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon John Griffiths
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon John Griffiths wedi darparu grant o £10,000 i Radio Beca

Mae'r Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon John Griffiths wedi cyhoeddi rhestr o orsafoedd radio sydd wedi derbyn grantiau gan Lywodraeth Cymru.

Mae dros £100,000 wedi cael ei roi i naw gorsaf radio sy'n cael eu diffinio fel rhai 'cymunedol'.

Mae un orsaf radio ar y rhestr, sydd heb ddechrau darlledu eto, Radio Beca, wedi derbyn £10,000.

Derbyniodd Radio Beca drwydded ddarlledu gan Ofcom ym mis Ebrill y llynedd.

Bydd yr orsaf newydd yn darlledu yn ardaloedd Ceredigion, Sir Gâr a gogledd Sir Benfro yn bennaf yn y Gymraeg.

Dywedodd cyfarwyddwr Radio Beca, Euros Lewis, y bydd yr orsaf yn "defnyddio'r Gymraeg fel sail ar gyfer ymestyn allan a bod yn gynhwysol".

"Cyd-weithredu"

"Ry'n ni hanner blwyddyn bant o ddechrau darlledu, ond ni wedi cyrraedd pwynt nawr lle ni'n barod i roi cyfle i bobl ar draws siroedd y gorllewin i berchnogi'r orsaf, mewn mwy nac un ystyr.

"Gorsaf gydweithredol fydd hon, yn gyllidol ac yn gymdeithasol, a bydd criw o bobl sydd â diddordeb yn y prosiect yn arwain y drafodaeth.

Dywedodd Mr Lewis bod croeso i bob math o grwpiau gwahanol gyfrannu at yr orsaf, gan gynnwys "teuluoedd, unigolion, capeli, clybiau rygbi, Merched y Wawr a Ffermwyr Ifanc".

"Beth ry'n ni eisiau ei wneud yw creu'r gallu i siroedd y gorllewin ddatblygu dulliau o gyfathrebu - cymuned yn siarad â'r gymuned."

Bydd rhan helaeth o allbwn yr orsaf yn Gymraeg, ond bydd Radio Beca'n rhoi cyfle i grwpiau gwahanol gyfrannu i raglenni gyda'r nos.

Mae'r orsaf yn bwriadu rhoi llwyfan i ieithoedd eraill, gan gynnwys Pwyleg.

"Nid creu cilfach i'r Gymraeg yw'r bwriad," meddai Mr Lewis.

"Gwasanaeth o bwys"

Yn siarad wedi cyhoeddi'r rhestr grantiau, dywedodd y Gweinidog Diwylliant John Griffiths bod "radio cymunedol yn darparu gwasanaeth o bwys mawr i drigolion lleol."

"Yn ogystal ag adlewyrchu'r materion sy'n cael effaith ar bobl a'u cymunedau, mae gorsafoedd radio lleol hefyd yn cyfrannu at wella bywydau eu gwrandawyr drwy amrywiol fentrau fel cynnal digwyddiadau lleol, mentrau hyfforddi, gweithio gydag ysgolion/prifysgolion a chodi arian i elusennau lleol."

"Dwi'n falch iawn o gyhoeddi'r grantiau hyn ac yn llongyfarch y gorsafoedd ar y swyddogaeth bwysig y maent yn ei chyflawni o fewn eu cymunedau."

Ymysg y gorsafoedd eraill sydd wedi derbyn arian mae Radio Tircoed, Tudno FM a Calon FM.