Mewn lluniau: Dyrchafiad Caerdydd i'r UwchgynghrairCyhoeddwyd17 Ebrill 2013Disgrifiad o’r llun, Daw llwyddiant Caerdydd 53 blynedd i'r diwrnod ers y tro diwethaf iddyn nhw gael eu dyrchafu i Brif Adran Cynghrair Lloegr.Disgrifiad o’r llun, Dim ond gêm gyfartal yn erbyn Charlton Athletic oedd angen ar yr Adar Gleision i sicrhau dyrchafiad.Disgrifiad o’r llun, Roedd yr awyrgylch yn ystod y gêm yn erbyn Charlton Athletic nos Fawrth yn drydanol.Disgrifiad o’r llun, Ond dechreuodd y dorf ddathlu cyn gynted ag y sylddweddolon nhw fod Watford yn colli.Disgrifiad o’r llun, Roedd cannoedd o gefnogwyr ar y cae ar ôl i'r chwiban olaf gael ei chwythu wrth i'r gêm orffen yn ddisgôr.Disgrifiad o’r llun, Hwn yw'r pedwerydd tro i Gaerdydd gael eu dyrchafu i Brif Adran Lloegr.Disgrifiad o’r llun, Rheolwr Caerdydd Malky Mackay yng nghanol y dathluDisgrifiad o’r llun, Fe ddathlodd Craig Bellamy, sy'n hanu o Gaerdydd, gyda'r cefnogwyr yn dilyn y gêm.Disgrifiad o’r llun, Nid yw'r clwb wedi chwarae ym mhrif adran Cynghrair Lloegr er 1962.Disgrifiad o’r llun, Mae'r Adar Gleision wedi bod ar frig y Bencampwriaeth ers mis Tachwedd.Disgrifiad o’r llun, Cafodd y gêm ei gwylio gan fwy na 26,000 o gefnogwyr yn Stadiwm CaerdyddDisgrifiad o’r llun, Disgwylir i ddyrchafiad y clwb fod yn fuddiol yn ariannol i'r Adar Gleision ac i'r brifddinasDisgrifiad o’r llun, Deellir fod gan berchennog y clwb Vincent Tan gynlluniau cyffrous ar gyfer yr Adar GleisionDisgrifiad o’r llun, Mae perchennog y clwb Vincent Tan wedi dweud y byddai'n gwario hyd at £25 miliwn ar chwaraewyr newydd ar ôl i'r Adar Gleision gael eu dyrchafu i'r Uwchgynghrair.Straeon perthnasolCardiff fans celebrate promotionAdran y storiNewsCyhoeddwyd17 Ebrill 2013