Pobl Môn yn bwrw pleidlais

  • Cyhoeddwyd
Swyddfeydd cyngor Ynys MônFfynhonnell y llun, BBC news grab
Disgrifiad o’r llun,

Mae comisiynwyr wedi bod yn rhedeg y cyngor ers 2011

Mae pobl Ynys Môn yn penderfynu pwy fydd eu cynghorwyr lleol yn ddiweddarach.

Maen nhw wedi gorfod aros flwyddyn yn hirach na gweddill Cymru wedi i Gomisiynwyr gael eu galw i redeg y cyngor gan Lywodraeth Cymru.

Digwyddodd hyn yn sgil adroddiad beirniadol ym mis Mawrth 2011 gan Swyddfa Archwilio Cymru.

Roedd yr adroddiad wedi argymell rhaglen o newidiadau democrataidd i'r cyngor gan gynnwys edrych ar nifer y cynghorwyr a'r wardiau.

Mae yna 106 o ymgeiswyr eleni.

Bydd yr etholwyr yn dewis 30 o gynghorwyr, yn hytrach na'r 40 blaenorol.

Mae yna newidiadau mawr wedi bod i ffiniau ar yr ynys, gydag 11 o wardiau newydd aml-aelod.

Bydd wyth o'r wardiau newydd yn cael eu cynrychioli gan dri chynghorydd a thair ward gan ddau gynghorydd.

Mae'r blychau pleidleisio ar agor rhwng 7:00am a 10:00pm.

Bydd y pleidleisiau'n cael eu cyfri o 9:30am ymlaen ddydd Gwener.

Ddydd Iau hefyd bydd nifer fechan o'r 40 o gynghorwyr tref a chymuned yn Ynys Môn yn cynnal etholiad.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol